Cyrchu Proffesiynau
Mae’r rhaglen Mynediad at Broffesiynau yn rhoi'r cyfleoedd i fyfyrwyr gael rhagor o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch cyrsiau prifysgol sy’n arwain at broffesiynau penodol.
Mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim ac yn agored i fyfyrwyr yn y chweched dosbarth neu goleg. Rhoddir y flaenoriaeth i fyfyrwyr sydd wedi bod dan anfantais yn addysgol neu sydd wedi profi tarfu ar eu haddysg a'r rheiny sy'n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymarferol yn cael eu cynnal dan arweiniad ymarferwyr ac ymchwilwyr sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Nod pob digwyddiad yw rhoi'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i wneud cais llwyddiannus i wneud y cyrsiau hyn sydd fel arfer yn rhai cystadleuol.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
- Ysgol Haf Meddygaeth, a gyflwynir mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Sutton
- Llwybrau at y Gyfraith, a gyflwynir mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Sutton
- Digwyddiadau blasu gofal iechyd
- Pynciau sy’n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, a bydd y manylion i’w gweld ar dudalen chwilio’r Ysgol o ran ymgysylltu ag ysgolion – chwiliwch am ‘Mynediad at Broffesiynau’.
Cysylltu â ni
Ebostiwch ein tîm Ehangu Cyfranogiad i gael gwybod rhagor am Fynediad at Broffesiynau: