Ewch i’r prif gynnwys

Ein grwpiau blaenoriaeth

Mae ein gwaith Ehangu Cyfranogiad yn cefnogi pobl o ystod eang o gefndiroedd i gyrraedd eu potensial.

Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni wedi adnabod grwpiau blaenoriaeth o bobl nad ydyn nhw’n cael digon o gynrychiolaeth ym myd addysg uwch. Pobl yn y grwpiau hyn fydd yn derbyn ein sylw yn ein rhaglenni cymorth ac allgymorth. Lluniwyd y rhain yn bwrpasol, a'r nod yw y byddan nhw o fudd i fyfyrwyr presennol yn y Brifysgol presennol yn ogystal â phobl yn y gymuned.

Caiff ein blaenoriaethau eu hadolygu'n flynyddol gan ddefnyddio'r data a'r canllawiau diweddaraf.

Rhennir ein grwpiau blaenoriaeth yn unol â’r pum pennawd isod:

Pobl â phrofiad o fod mewn gofal

Ystyrir bod rhywun â phrofiad o fod mewn gofal os yw wedi bod mewn gofal neu a oedd wedi derbyn gofal am dri mis neu ragor.

Cyn-filwr yn y Lluoedd Arfog

Cyn-filwr yw dyn neu fenyw sydd wedi gwasanaethu am o leiaf un diwrnod yn y Lluoedd Arfog, sef y Fyddin, y Llynges Frenhinol (Y Môr-filwyr Brenhinol) a'r Llu Awyr Brenhinol. Mae hyn hefyd yn cynnwys milwyr y Fyddin, milwyr rheolaidd a milwyr wrth gefn.

Ffoadur / ceisiwr lloches

Yn y DU, ffoadur yw rhywun sydd wedi ffoi o'i wlad, ac sy'n ceisio cael ei amddiffyn, a hwyrach bod hyn wedi digwydd oherwydd nifer o resymau.  Ceisiwr lloches yw rhywun sydd wedi gwneud cais am statws ffoadur ac sy'n aros i gael gwybod a yw’r statws hwnnw wedi cael ei roi.

Oedran

Ystyrir rhywun sy'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf ac sydd mwy na 21 oed yn fyfyriwr aeddfed.

Anabledd

Ni ddylid ystyried byw gydag anabledd yn rhwystr i gael addysg uwch a ffynnu yno - mae gennym ystod o wasanaethau cymorth ar gael.

Cefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Rydyn ni wedi ymrwymo i gryfhau cydraddoldeb hiliol drwy greu prifysgol sy’n amrywiol ac yn gynhwysol.

Myfyrwyr rhan-amser

Mae rhai opsiynau astudio rhan-amser ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’r rhain yn rhoi hyblygrwydd i fyfyrwyr os bydd angen hyn. Rydyn ni am sicrhau bod y myfyrwyr sy'n dewis yr opsiwn hwn yn cael eu cefnogi yn ystod y broses ymgeisio a thu hwnt.

Cyfrwng Cymraeg

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu campws sy'n hyrwyddo ac yn dathlu’r defnydd o'r Gymraeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr fel ei gilydd.A person who is entering university for the first time and is aged over 21 is considered a mature student.

Cyfrifoldebau gofalu

Gofalwr yw unrhyw un sy’n gofalu’n ddi-dâl am ffrind neu aelod o’r teulu nad yw’n gallu ymdopi heb gefnogaeth y person hwnnw oherwydd salwch, anabledd neu broblem iechyd meddwl”. (Gofalwyr Cymru)

Wedi ymddieithrio o’r teulu

Defnyddir y term myfyriwr sydd wedi ymddieithrio o’r teulu i gyfeirio at fyfyrwyr sy'n astudio heb gefnogaeth rhwydwaith teuluol. Rydyn ni’n deall na fydd amgylchiadau dau o fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio o’r teulu yr un fath, felly cysylltwch â ni os ydych chi o’r farn bod hyn yn berthnasol ichi.

Incwm yr aelwyd

Fel arfer, mae incwm yr aelwyd yn cyfeirio at faint o arian y mae eich rhieni/gwarcheidwaid yn ei ennill gyda'i gilydd bob blwyddyn (ar gyfer myfyrwyr sy’n llai na 25 oed sy'n byw gyda nhw, neu sy'n dibynnu arnyn nhw’n ariannol). Ym Mhrifysgol Caerdydd, os yw incwm eich cartref yn llai na £35,000 efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol gennym.

Y genhedlaeth gyntaf (rhieni/gwarcheidwaid na chawson nhw eu haddysgu hyd at lefel AU)

Nodwch eich bod yn cael eich ystyried yn genhedlaeth gyntaf o hyd os oes gennych chi frodyr neu chwiorydd a aeth i'r brifysgol. O ran y mesur hwn, rydyn ni’n ystyried a oedd eich rhieni/gwarcheidwaid wedi mynd i'r brifysgol.

Rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth am yr ysgol lle buoch chi’n astudio neu lle rydych chi’n astudio ar hyn o bryd, a hwyrach y bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys y lleoliad, canran y myfyrwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a pherfformiad arholiadau.

Mae eich côd post yn rhoi gwybodaeth inni am yr ardal lle rydych chi'n byw. Mae dau fesur y byddwn ni’n edrych arnyn nhw o ran eich côd post.

Y cyntaf yw POLAR, sy'n dweud wrthon ni faint yw cyfraddau’r sawl sy’n cymryd rhan mewn addysg uwch ledled y DU fesul ardal. Os yw eich côd post yn y 40% isaf o godau post, efallai y byddwch chi’n gymwys ar gyfer ein rhaglenni.

Yr ail yw’r mynegeion amddifadedd lluosog (IMD) sy'n edrych ar ystod o fesurau gwahanol am eich ardal. Unwaith eto, os ydych chi yn y 40% isaf, efallai y byddwch chi’n gymwys.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth:

Tîm Ehangu Mynediad