Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Darganfod

Lluniwyd ein Prosiect Darganfod yn benodol ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed sydd â chyflyrau ar sbectrwm awtistiaeth.

Mae’r prosiect yn cynnwys sesiynau mentora rheolaidd sy’n dod â’r myfyrwyr ynghyd, naill ai ar y campws neu ar-lein. Yn ogystal â datblygu sgiliau allweddol i ffynnu yn y brifysgol, maen nhw’n dysgu am fywyd prifysgol drwy gwrdd â myfyrwyr sydd yn y brifysgol ar hyn o bryd.

Ar ddiwedd y prosiect, bydd ysgol haf breswyl deuddydd, a byddwn ni’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol er mwyn ffynnu yn y brifysgol, megis byw'n annibynnol, cyllidebu a gweithio gyda phobl eraill.

Diwrnod Ymweld â Darganfod

Rydyn ni hefyd yn cynnal Diwrnod Ymweld â Darganfod, sef diwrnod agored yn benodol ar gyfer pobl ifanc sydd â chyflyrau ar sbectrwm awtistiaeth. Yn ystod y digwyddiad hwn, bydd gan y myfyrwyr y cyfle i gael taith o amgylch y campws a dysgu am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Podlediad: Y Brifysgol, Awtistiaeth a Chi

Yn ein podlediad, Y Brifysgol, Awtistiaeth a Chi, mae staff allgymorth a myfyrwyr sydd yn y brifysgol ar hyn o bryd yn rhoi eu barn a’u cyngor i helpu myfyrwyr awtistig i baratoi ar gyfer bywyd prifysgol.

Cysylltu â ni

Mae croeso mawr ichi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect:

Tîm Ehangu Mynediad