Ewch i’r prif gynnwys

Chwarae doliau’n ysgogi plant i sôn am feddyliau ac emosiynau pobl eraill, yn ôl astudiaeth newydd

7 Chwefror 2022

Dr Sarah Gerson
Dr Sarah Gerson

Gall chwarae doliau ysgogi plant i sôn am feddyliau ac emosiynau pobl eraill, yn ôl canfyddiadau diweddaraf astudiaeth aml-flwyddyn sy’n cael ei chynnal gan niwrowyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r data’n ymhelaethu ar ymchwil a gomisiynwyd gan Mattel i effaith chwarae doliau ar blant. Arbenigwyr yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol yr Ysgol Seicoleg sy’n cynnal yr ymchwil hon.

Yn ail flwyddyn yr astudiaeth, edrychodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Choleg y Brenin, Llundain, yn ar bwysigrwydd yr hyn y mae plant yn ei ddweud wrth chwarae.

Gwelsant fod plant yn sôn am feddyliau ac emosiynau pobl eraill – y cysyniad o ‘ddefnyddio iaith am gyflwr mewnol’ – yn fwy wrth chwarae doliau ar eu pen eu hunain nag y maent wrth chwarae ar lechen.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae siarad am gyflwr mewnol Lpobl neu blant eraill yn ymarfer sgiliau cymdeithasol y gallant eu defnyddio wrth ryngweithio â phobl yn y byd go iawn, a gall gwneud hyn, o bosibl, fod o fudd i’w datblygiad emosiynol cyffredinol.

Dywedodd y prif ymchwilydd, Dr Sarah Gerson: “Pan fydd plant yn creu bydoedd dychmygol ac yn defnyddio doliau i chwarae rôl, maent yn cyfathrebu’n uchel i ddechrau ac yna’n mewnoli’r neges ynghylch meddyliau, emosiynau a theimladau pobl eraill.

“Ymhlith effeithiau cadarnhaol a hirdymor hyn mae cyfraddau prosesu cymdeithasol ac emosiynol uwch a datblygiad sgiliau cymdeithasol, fel empathi, sy’n gallu cael eu mewnoli i greu arferion gydol oes.”

Wrth arsylwi 33 o blant rhwng pedair ac wyth oed, gwelodd yr ymchwilwyr fwy o weithgarwch ymenyddol o gwmpas rhan ôl y swlcws arleisiol uwch pan siaradodd y plant fel pe bai gan eu doliau feddyliau a theimladau. Mae sgiliau prosesu cymdeithasol ac emosiynol yn datblygu o gwmpas rhan ôl y swlcws arleisiol uwch, sy’n cefnogi canfyddiadau blwyddyn gyntaf yr astudiaeth ymhellach, sef bod chwarae doliau’n ysgogi’r rhannau o’r ymennydd sy’n galluogi plant i ddatblygu empathi a sgiliau prosesu cymdeithasol ac emosiynol.

Yn rhan o’r astudiaeth, cafodd offer sbectrosgopeg bron-yn-isgoch swyddogaethol ac arloesol eu defnyddio i archwilio gweithgarwch ymenyddol wrth i blant chwarae doliau neu chwarae ar lechen ar eu pen eu hunain a chyda rhywun arall. Gwelodd yr ymchwilwyr fod mwy o iaith am gyflwr mewnol yn cael ei defnyddio ymhlith plant a oedd yn chwarae doliau ar eu pen eu hunain nag ymhlith plant a oedd yn chwarae ar lechen ar eu pen eu hunain. Gwelsant hefyd fod defnyddio iaith am gyflwr meddyliol yn gysylltiedig â mwy o weithgarwch o gwmpas rhan ôl y swlcws arleisiol uwch.

“Gall y defnydd o iaith am gyflwr mewnol ddangos bod plentyn yn ystyried meddyliau ac emosiynau pobl eraill wrth chwarae doliau,” meddai Dr Gerson.

“Mae’r sgiliau hyn yn bwysig iawn ar gyfer rhyngweithio â phobl eraill, dysgu gan bobl eraill a llywio amrywiaeth o sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae’n dod yn bwysig ar gyfer gwneud ffrindiau a’u cadw, gan gynnwys dysgu gan ei athrawon a’i rieni.”

Dywedodd Lisa McKnight, Uwch Is-Lywydd a Phennaeth Byd-eang Portffolio Barbie a Doliau Mattel: “Drwy ein partneriaeth hirdymor â Phrifysgol Caerdydd, rydym yn edrych ymlaen at ddatgelu hyd yn oed mwy o’r manteision niwrowyddonol sydd i chwarae doliau.”

Rhannu’r stori hon