Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth yn canfod bod dysgu ar-lein yn effeithio'n wael ar les plant

15 Rhagfyr 2021

Child studying

Canfu astudiaeth a gyd-awdurodd yr Athro, Bob Snowden, fod plant ysgol uwchradd yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio ac ymgysylltu â gwaith ysgol wrth bontio i ddysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo, gan effeithio'n negyddol ar eu hyder a'u lles.

Cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe arolwg o gyfanswm o 407 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed yn ystod mis Tachwedd 2020 pan oedd ysgolion wedi ailagor.

Atebodd y disgyblion gwestiynau am eu gallu i ganolbwyntio, pa mor frwdfrydig ac ymgysylltiol yr oeddent yn teimlo, ac a oeddent yn teimlo'n hyderus yn eu gallu i ddysgu.

Dangosodd dadansoddiad o'u hymatebion fod profiadau dysgu disgyblion (canolbwyntio, ymgysylltu, gallu i ddysgu, a hunanwerth o ddysgu) yn sylweddol is ar gyfer dysgu ar-lein o gymharu â dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Hefyd, roedd y gwahaniaethau hyn yn fwy amlwg mewn myfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol.

"Yn gyffredinol, mae problemau iechyd meddwl yn dechrau'n gynnar mewn bywyd, a gall ysgolion chwarae rhan ganolog wrth nodi'r problemau hyn a chyfeirio'r plentyn at gymorth a thriniaeth. Rydym wedi dangos bod argyfwng COVID wedi effeithio ar iechyd meddwl llawer o bobl, gyda phobl iau yn dioddef fwyaf. Mae'r canlyniadau presennol yn dangos bod symud i ddysgu ar-lein nid yn unig wedi effeithio ar brofiad dysgu plant, ond hefyd yn cael sgil-effeithiau ar eu hiechyd meddwl – a hyd yn oed yn fwy felly i'r rhai ag anghenion dysgu arbennig."

Yr Athro Robert Snowden Professor

Ychwanegodd Tom Walters, aelod o'r tîm ymchwil ac uwch arweinydd i Ysgol Howells, Llandaf: "Yn ystod dysgu ar-lein roedd staff yn ymwybodol bod llawer yn ei chael hi'n anodd ymaddasu i'r dull dysgu newydd, yn enwedig y rhai ag anawsterau dysgu penodol."

"Gyda'r tebygolrwydd y bydd y dull hwn o ddysgu yn fwy cyffredin yn y dyfodol, roeddem yn awyddus i ddeall gofynion dysgu o bell yn well a cheisio gwneud hynny mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth."

Rhannu’r stori hon

Our multidisciplinary research advances fundamental knowledge, shapes public policy and improves health outcomes for patients.