Mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern
Lansiwyd y Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern yn 2015 ac fe'i cyllidir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect yn gosod israddedigion ac ôl-raddedigion o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth mewn ysgolion lleol i fentora disgyblion a'u hannog i ystyried ieithoedd rhyngwladol wrth ddewis eu hopsiynau TGAU. Mae'r prosiect hefyd wedi datblygu rhaglen ddigidol sy'n cysylltu disgyblion ysgol uwchradd a myfyrwyr prifysgol ar-lein. Caiff yr elfen hon yn y prosiect ei diweddaru mewn ymateb i COVID-19.
Ein cenhadaeth
Diben Prosiect Mentora Myfyrwyr MFL yw:
- amlygu manteision dysgu iaith ar lefel TGAU, Safon Uwch a gradd
- ehangu gorwelion a dyheadau dysgwyr drwy amlygu cyfleoedd o ran lles, gyrfa a symudedd sydd ar gael i'r rhai hynny sydd â sgiliau iaith, fel gweithio ac astudio dramor
- codi disgwyliadau, gwella cymhelliant a chryfhau dyfalbarhad a gwytnwch personol y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd
- creu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ieithoedd modern addysg uwch ac ysgolion uwchradd partner
- cynnig cyfleoedd a phrofiadau yn yr ystafell ddosbarth i fyfyrwyr prifysgol, gyda'r nod o annog mwy o’u plith i ystyried dysgu fel posibilrwydd.
Ein gweledigaeth
Mae ein rhaglen yn annog disgyblion i fod yn chwilfrydig am bob iaith a diwylliant. Rydym ni'n cefnogi'r syniad o gymuned fyd-eang gan nad yw unrhyw gymdeithas un uniaith nac yn un-ddiwylliannol. Yn y pen draw, ein nod yw dangos mai ffordd o feddwl yw byd-ehangder, meddylfryd ac agwedd nad yw'n dibynnu ar symudedd mewn gwirionedd. Dylai fod ar gael i bawb, pa bynnag iaith mae disgyblion yn ei dysgu, a lefel eu medrusrwydd. Drwy ystyried ieithoedd yn y ffordd hon, rydym yn ceisio rhoi perchnogaeth i ddisgyblion o ran dysgu iaith a'u hymdeimlad o hunaniaeth bersonol a byd-eang.
Strwythur y prosiect
- Mae mentoriaid yn ymgeisio yn ystod misoedd yr haf bob blwyddyn a chânt eu hyfforddi'n ffurfiol naill ai ym mis Medi neu ym mis Hydref.
- Rydym ni'n derbyn ymgeiswyr mentora o bob disgyblaeth. Rhaid i fentoriaid fod â diddordeb ac angerdd dros ehangu ac agor meddyliau i ddiwylliannau ac ieithoedd rhyngwladol.
- Bob blwyddyn academaidd rydym ni'n cyflwyno dau gylch mentora, cyfnod chwe wythnos rhwng Hydref a Rhagfyr a chyfnod chwe wythnos yn Chwefror-Mawrth.
- Bydd mentoriaid yn cymryd rhan yn y Seremonïau Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth yn eu prifysgolion.
- Bydd mentoriaid yn derbyn bwrsariaeth i gydnabod eu hymrwymiad i'r prosiect.
Rhagor o wybodaeth
Gellir cael gwybodaeth am y bartneriaeth, cyllido a chanlyniadau'r prosiect gan Lucy Jenkins, y Cydlynydd Cenedlaethol.
Gellir cael gwybodaeth am ymgeisio i fod yn fentor neu bartner ysgol gan Glesni Owen, Cydlynydd Prosiect Cymru.

Lucy Jenkins
National Coordinator MFL Student Mentoring Project
- jenkinsl27@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6630

Glesni Owen
Wales Co-ordinator - Modern Foreign Languages Mentoring Project
- Siarad Cymraeg
- owengh@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 1723
More information on our undergraduate courses, plus where they might take you, is available on our course finder.