Ewch i’r prif gynnwys
Being Human Festival banner

Gŵyl Bod yn Ddynol

Bod yn Ddynol yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU i ddathlu ymchwil dyniaethau trwy ymgysylltu â'r cyhoedd. #BeingHumanFest

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno ag Amgueddfa Cymru ar gyfer cyfres o weithgareddau am ddim o amgylch thema'r ŵyl eleni sef Rhigwm a Rheswm - gan dynnu ar ystod o ymchwil sy'n cwmpasu cloddiadau archeolegol, cadwraeth gwaith celf, deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, casgliadau ffyngau, a hanes Cymru drefedigaethol a diwydiannol.

Dewiswyd Prifysgol Caerdydd yn un o’r pum prif ganolfan ledled y DU fydd yn cynnal Gŵyl Bod yn Ddynol 2023, sef gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Gŵyl Bod yn Ddynol yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU sy’n dathlu ymchwil yn y dyniaethau drwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cynhelir yr ŵyl yng Nghaerdydd rhwng 8-19 Tachwedd 2023, a bydd ein Canolfan yn ymuno â rhwydwaith Gŵyl Bod yn Ddynol i gynnal cannoedd o ddigwyddiadau am ddim ledled y DU a thu hwnt.

Nod ein hystod eang o ddigwyddiadau yn yr ŵyl yw dathlu a dangos y ffyrdd y mae ymchwilwyr yn y dyniaethau yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd, yn ein helpu i ddeall ein hunain, ein perthynas â phobl eraill, a'r heriau sy'n ein hwynebu mewn byd sy'n bythol newid.

Nid oes tâl i gymryd rhan, ac mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau ar agor i bawb, er bod rhai wedi'u hanelu at grwpiau ac ysgolion heb gynrychiolaeth ddigonol.

Professor Claire Gorrara against a red background

Croeso i Ŵyl Bod yn Ddynol 2023

Cyflwyniad i'r ŵyl gan yr Athro Claire Gorrara a Dr Jenny Kidd, Prifysgol Caerdydd.

Close up of a white calendar with a red pin

2023 digwyddiadau Gŵyl Bod yn Ddynol

Crynodeb o'r rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer Gŵyl Being Human 2023.