Ewch i’r prif gynnwys

2023 digwyddiadau Gŵyl Bod yn Ddynol

Dyma crynodeb o'r rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer Gŵyl Bod yn Ddynol 2023.

Teitl y digwyddiadAmserDisgrifiad
Dod Adref: Rhannu Straeon Iechyd Meddwl Cyn-filwyr9 Tach 2023, 09:00 to 18 Tach 2023, 17:00Mae Dod Adref yn arddangosfa profiadau bywyd sy'n cael eu hadrodd ar ffurf comic a chartŵn unigryw wedi'i gynhyrchu gan gyn-filwyr ar y cyd ag ymarferwyr profiadau bywyd, gweithwyr proffesiynol yn sector y celfyddydau ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd.
Celf Anifeiliaid Oes y Cerrig11 Tachwedd 2023 10:00-16:00Ymunwch mewn amrywiaeth o weithgareddau o edrych ar offer o Oes y Cerrig i greu celf anifeiliaid i fynd adref gyda chi mewn digwyddiad i'r teulu cyfan.
Dod Adref: Teithiau Tywys14 Tachwedd, 13:00-14:30

Ymunwch â Re-Live ar gyfer arddangosfa o waith celf gwreiddiol o Dod Adref, casgliad o gomics a grëwyd gan gyn-filwyr sy'n byw gyda hanesion iechyd meddwl ar y cyd â rhai o gartwnwyr mwyaf blaenllaw y DU, ymarferwyr Profiadau Bywyd ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd.

Dod Adref: Sgwrs a Gweithdy Profiadau Bywyd14 Tachwedd, 15:00-16:30I ddathlu'r arddangosfa o waith celf gwreiddiol o Dod Adref, casgliad o gomics Re-Live a grëwyd ar y cyd â chyn-filwyr sy'n byw gyda hanesion iechyd meddwl, bydd Cyfarwyddwr Artistig Re-Live yn arwain gweithdy i drafod y broses.
Edrych ar Hanes Llafur: treftadaeth a chydweithredu cynhwysol14 Tachwedd, 17:00-19:00

Dewch i edrych ar gasgliadau’r Amgueddfa i ddysgu am hanes llafur yng Nghymru a’r byd, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Sgwrs gydag AI17 Tachwedd 2023 10:00-16:00Pa mor ymwybodol ydych chi o ddeallusrwydd artiffisial (AI) a sut i'w ddefnyddio? Dyma senario dychmygol lle mae system AI yn cael ei chyfweld am ei gwaith ym maes newyddiaduraeth.
Mapio'r Metelau - Treftadaeth Gymunedol a Chanfod Metel18 Tachwedd 2023 10:00-16:00Dewch i helpu i gynnal a chofnodi dadansoddiad o'r trysorau archaeolegol sydd i'w canfod ar eich stepen drws.

Gwelwch rhaglen lawn gŵyl Gŵyl Bod yn Ddynol ar draws y DU