Ewch i’r prif gynnwys

Croeso i Ŵyl Bod yn Ddynol 2023

Professor Claire Gorrara against a red background
Professor Claire Gorrara
Dr Jenny Kidd
Dr Jenny Kidd

Croeso cynnes i bawb fydd yn ymuno â ni yng Ngŵyl Bod yn Ddynol 2023.

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o gael ei dewis yn un o bum canolfan yr ŵyl ledled y DU fydd yn cynnal Gŵyl Bod yn Ddynol 2023, sef gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU.

Thema'r ŵyl eleni yw 'Rheol neu Reswm' a byddwn ni’n gweithio ar y cyd ag Amgueddfa Cymru i gynnal ein digwyddiadau ledled Cymru. Mae'r thema hon yn dathlu unrhyw a phob agwedd ar ymchwil yn y dyniaethau sy'n ymwneud â'r meysydd y mae ein sefydliadau yn ymwneud â nhw, a Chymru yn fwy cyffredinol.

Bob blwyddyn mae'r ŵyl yn gwahodd ymchwilwyr mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill i gydweithio â phartneriaid cymunedol a diwylliannol lleol i greu digwyddiadau cyffrous a deniadol i’r cyhoedd. Mae'r rhain yn gweithio gyda chymunedau lleol i rannu syniadau fydd o fudd i bawb.

Yn rhan o bartneriaeth strategol ehangach i hybu cydweithio ar draws byd Addysg Uwch a sector Treftadaeth Cymru, mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio ag Amgueddfa Cymru i gyflwyno rhaglen Gŵyl Bod yn Ddynol sy'n defnyddio ystod o ymchwil sy'n rhychwantu cloddio archaeolegol, cadwraeth celf, deallusrwydd artiffisial, casgliadau o ffyngau, arddangosfa o hanesion iechyd meddwl cyn-filwyr, a hanes trefedigaethol a diwydiannol Cymru yng Nghastell Penrhyn.

Bydd y digwyddiadau hyn i’r cyhoedd, sy’n rhad ac am ddim, yn cael eu hanelu at ystod o oedrannau yn ogystal â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a bydd y rhain yn cynnwys teithiau cerdded dan arweiniad, arddangosiadau, trin gwrthrychau, a gweithdai celfyddydol a chrefft. Mae'r ŵyl hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl rannu eu meddyliau, eu syniadau a'u profiadau, a hynny er mwyn bwydo i mewn i fyd ymchwil a chreu gweithgareddau a digwyddiadau ar y cyd.

Mae'r bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru yn canolbwyntio ar gydweithio ar draws pum maes gyda'r nod o greu budd i'n cymunedau amrywiol: ymchwil ac arloesi; diogelu ac adfer yr amgylchedd; diwylliannau digidol a thechnolegau addasol; sgiliau, talent a dysgu gydol oes; a sicrhau lles a chynrychiolaeth gynhwysol drwy werthfawrogi ein treftadaeth.

Mae pob un o’n digwyddiadau yn ennyn diddordeb ymchwilwyr a chymunedau ehangach i wneud gwahaniaeth. Yn y cyfnod hwn sy’n bythol newid, mae ein hymchwil yn y dyniaethau yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd ac yn ein helpu i ddeall ein hunain a'r ffordd rydyn ni’n ymwneud â phobl eraill. Dymunaf Ŵyl wych i bob un ohonoch!

Dymuniadau gorau,

Claire a Jenny