Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliant ymchwil

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae ein diwylliant ymchwil yn cydweithio’n weithredol ac yn flaengar, ac yn cyfrannu at ymchwil wyddonol, yr economi a chymdeithas.

Cydweithio ar ymchwil

Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i hybu cydweithio ar draws yr holl ddisgyblaethau gwyddonol. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd trefniadau cydweithio, rhwydweithiau a phartneriaethau. Rydym wedi bod yn gyd-awduron ar fwy na 1,000 o gyhoeddiadau gyda chydweithwyr allanol o sefydliadau, cyfleusterau a diwydiant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Rydym yn cydweithio’n eang o fewn yr Ysgol ac yn elwa yn yr un modd o ryngweithio eang ar draws Ysgolion Academaidd eraill y Brifysgol, gan gynnwys Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol, y Biowyddorau, DeintyddiaethFfiseg a Seryddiaeth, Meddygaeth, a Pheirianneg.

Gan adeiladu ar hyn, rydym yn gweithio ar y cyd â phrifysgolion blaenllaw eraill yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ac mae gennym gysylltiadau cryf a phellgyrhaeddol, sy’n cael effaith ar draws y byd, â busnesau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Mae rhwydwaith sefydliadau ymchwil y Brifysgol yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol yn ein meysydd allweddol o gryfder. Er enghraifft, mae ein Sefydliad Ymchwil Dŵr yn cyfuno bioleg, ecoleg, peirianneg, gwyddor cymdeithasol, a rhanddeiliaid allanol (Dŵr Cymru), gyda phrosiectau a arweinir gan gemeg ar drin dŵr.

Mae ein diwylliant i’w weld hefyd yng Nghanolfan Catalysis y Deyrnas Unedig, lle mae sawl aelod o’r Ysgol yn ymwneud â 45 o sefydliadau partner, gan greu prosiectau ar y cyd â sawl prifysgol a phartner diwydiannol. Rydym yn dal yn un o’r prif chwaraewyr yn y fenter hon.

Cymdeithas a gwleidyddiaeth

Y tu hwnt i feysydd academaidd a masnachol, creir cysylltiadau mwy pellgyrhaeddol â chynulleidfaoedd allweddol mewn lleoliadau cymdeithasol a gwleidyddol trwy ein cyfranogiad mewn sefydliadau gwleidyddol (megisGwyddoniaeth a’r Cynulliad).

Mae aelodau o’r Ysgol hefyd wedi cyfranogi yng nghyfarfodydd datblygu polisi sefydliadau allweddol megis yr UE, ar draws ystod eang o feysydd gwyddonol, gan gynnwys yr economi gylchol a throsi CO2.

Mae ein Hysgol yn sicrhau ein bod yn cyfrannu at bolisi llywodraeth Cymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop lle bo cyfleoedd yn codi i wneud hynny.

Dyfarniadau a chydnabyddiaeth

Mae cyflawniadau ymchwil ein Hysgol wedi cael eu cydnabod trwy ddyfarniadau, gwobrau, anrhydeddau, bri, a dangosyddion parch, gan gynnwys penodiadau i rolau arweiniol yn y gymuned ymchwil (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol), cymdeithasau dysgedig a chyrff proffesiynol.

Mae’r dyfarniadau hyn wedi cael eu rhoi i staff ar draws y sbectrwm cyfnodau gyrfa, gan gynnwys:

  • ethol i academïau rhyngwladol/cenedlaethol a chymdeithasau dysgedig
  • gwobrau, dyfarniadau ac anrhydeddau
  • apwyntio yn athrawon gwadd mewn prifysgolion tramor
  • penodi i fyrddau ymgynghorol a phwyllgorau rhyngwladol
  • rolau arweiniol mewn cymdeithasau dysgedig, ar gyrff proffesiynol, ym mhwyllgorau’r llywodraeth ac ar gynghorau ymchwil
  • cadeirio cynadleddau
  • rolau golygyddol
  • penodiadau brenhinol.