Ewch i’r prif gynnwys

Themâu ymchwil

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae ein strategaeth ymchwil yn cwmpasu chwe thema ymchwil trawsddisgyblaethol. Mae’r rhain yn hyblyg ac yn ymatebol, ac yn croesdorri disgyblaethau traddodiadol cemeg, i gynnig portffolio ymchwil eang a luniwyd i fynd i’r afael â heriau mawr y byd.

Ein gweledigaeth strategol yw hybu ymchwil ryngddisgyblaethol trwy ddealltwriaeth sylfaenol a gwaelodol o gemeg, ac rydym ni’n ymroddedig i ddatrys heriau sylweddol cymdeithas, ochr yn ochr â chyfrannu at dwf economaidd cenedlaethol trwy ddarganfyddiadau newydd.

Y themâu ymchwil canlynol yw:

Mae’r holl staff yn cyfrannu at y themâu hyn, yn sbarduno ein twf parhaus, ac yn cynrychioli grwpiau ystwyth sy’n barod i ymateb i heriau’r funud a heriau’r dyfodol yn y gwyddorau cemegol:

Cemeg Fiolegol

Mae’r thema hon yn canolbwyntio ar ystod o broblemau sy’n digwydd lle mae cemeg, bioleg, meddygaeth ac ecoleg yn cwrdd â’i gilydd. Y nod yw archwilio a dylanwadu ar adweithio a rhyngweithio moleciwlau biolegol, gyda ffocws ar broteinau ac asidau niwcleig.

Mae’r ymchwil yn effeithio ar feysydd amrywiol, o wella iechyd a llesiant i weithgynhyrchu cemegion mewn modd effeithlon, cynaliadwy. Mae gan ein Hysgol gryfderau penodol yn y meysydd canlynol:

  • biocatalysis
  • ensymoleg fecanistaidd
  • cemeg fio-organig a bio-anorganig
  • rhyngweithio bioleg a biofoleciwlaidd synthetig
  • NMR ac MS biofoleciwlaidd
  • biophotoneg ac optogeneteg
  • cemeg feddyginiaethol
  • synthesis organig
  • fferomonau
  • semiogemegion eraill planhigion.

Cyfrifiadureg a modelu

Mae ein pwyslais ar ddatblygu dulliau cyfrifiadurol ar gyfer cydberthynas electron, dadansoddi dwysedd electron, y berthynas feintiol rhwng strwythur a gweithgarwch (QSAR), dulliau deinameg moleciwlaidd a samplu pwysigrwydd uwch, cyfrifiadau thermol a chludo electronig, dulliau aml-gorff a chydberthynol wedi’u cymhwyso i’r cyflwr solet.

Mae gennym ddiddordeb mawr mewn datblygu meddalwedd a gwneud defnydd effeithiol o gyfrifiaduron paralel perfformiad uchel iawn. Mae hyn yn cefnogi ein gwaith ymchwil yn y meysydd canlynol:

  • arsugno / adweithedd arwynebau ocsid a metelig
  • deunyddiau mandyllog
  • astudiaethau mecanistig o adweithiau organig
  • strwythur a swyddogaeth biofoleciwlau
  • cyfnewid a thrafnidiaeth protonau mewn hydoddiannau
  • efelychu rhwymiad derbynnydd cyffuriau
  • efelychu trawsffurfiannau cyfnod mewn solidau.

Mae cemeg cyfrifiadurol a damcaniaethol hefyd yn ffurfio strwythur trosfwaol sy’n cyflenwi llawer o’r themâu uchod.

Datblygu sbectrosgopeg lefel uwch

Rydym ni’n canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso technegau sbectrosgopig a chymeriadu uwch, er mwyn dadansoddi priodweddau sylfaenol deunyddiau a biostrwythurau, gan gynnwys

  • techneg delweddu deublygiant pelydr-X newydd
  • dulliau diffreithiant pelydr-X powdwr newydd
  • astudiaethau SS NMR ar y safle ar gyfer pennu strwythur ar sail deunyddiau anghrisialog
  • dulliau aflonyddu a chydraniad amser mewn EPR
  • sbectrosgopeg laser mwyhau ceudod.

Rydym ni’n cymhwyso’r datblygiadau hyn i ddealltwriaeth fecanistig o lwybrau cemegol a biolegol mewn catalysis, deall strwythur a deinameg rhyngolion adweithiol, a chanfyddiad detholus mymrynnau nwyon atmosfferig a radicalau.

Technolegau galluogi ar gyfer synthesis cynaliadwy

Mae ein gwaith ymchwil nid yn unig yn cael effaith ar gemeg, ond hefyd yn meithrin trefniadau cydweithio rhyngddisgyblaeth newydd gyda pheirianneg, mathemateg a chyfrifiadureg.

Mae’n cyflawni dealltwriaeth ddyfnach o offer synthesis organig cemegol modern (megis cemeg llif, mecanocemeg, synthesis electro-organig) trwy integreiddio â roboteg, Deallusrwydd Artiffisial (AI) a dysgu peiriannol, i arddangos dull cyfleus ac awtomatig o ddarganfod deunyddiau newydd.

Mae cydweithio â gwyddonwyr cyfrifiadurol yn golygu bod modd creu rhyngwyneb ar gyfer platfformau darganfod a dyfeisiau robotig rheoli a rhaglennu sgrîn cyffwrdd deallus er mwyn cyflawni algorithmau optimeiddio unigryw, er mwyn dysgu a darganfod yn gyflym.

Deunyddiau swyddogaethol hierarchaidd ac ynni

Mae’r thema hon yn datblygu deunyddiau i’w defnyddio mewn cymwysiadau ynni, gan gynnwys pilenni ar gyfer puro nwy naturiol a chipio carbon, dyluniad a synthesis deunyddiau ar gyfer storio hydrogen, celloedd tanwydd a chatalyddion ar gyfer gwella cynhyrchu biodanwydd.

Mae’n cwmpasu synthesis unigryw deunyddiau sylfaen organig ac anorganig a’u hastudio fel mathau swyddogaethol o bensaernïaeth. Mae modd defnyddio hynny i beiriannu systemau cynaeafu golau, storio a throsi ynni, dyfeisiau optoelectronig, synhwyro a delweddu moleciwlaidd.

  • Ymhlith y meysydd sy’n gryfder unigryw i ni mae
  • synthesis organig graffenau moleciwlaidd pi-gyfunedig
  • systemau cyflenwi cyffuriau wedi’u cyfryngu â pholymer
  • polymerau sy’n atal fflamau, dyfeisiau swyddogaethol nano-hylifol
  • cemeg a ffiseg cyfansoddion cynhwysiad solet
  • priodweddau deinamig mecanweithiau twf crisialau
  • fframweithiau metel-organig (MOFs).

Catalysis

Mae’r gwaith ymchwil yn rhychwantu catalysis biolegol, homogenaidd a heterogenaidd, wedi’i seilio ar theori a chymeriadu a’i gynnal ganddynt, gydag arbenigedd cyffredinol ar draws y ddisgyblaeth sy’n ehangu y tu hwnt i seilos catalysis traddodiadol i gyflwyno gwaith ymchwil sydd â phwysigrwydd gwaelodol a thechnolegol.

Mae’n cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau cyflenwol, gan gynnwys gwyddor arwynebau, electrocemeg, a chemeg organofetelig, organig a biolegol.

Ymhlith y meysydd twf penodol a’r rhai sy’n cael eu targedu mae:

  • catalysis ar gyfer adferiad amgylcheddol
  • trin dŵr
  • methodolegau ar gyfer synthesis cemegol mân
  • deunyddiau newydd
  • datgarboneiddio petrocemegion a thanwydd (gan gynnwys trosi CO2, tanwydd synthetig cynaliadwy a rhyngol, ocsideiddio a hydrogeneiddio glân, amnewid metelau tocsig, gwerthfawr neu anffafriol o safbwynt geowleidyddiaeth).

Un pwyslais pwysig yw gwneud yn fawr o’r ddealltwriaeth sy’n dod i’r amlwg ynghylch priodweddau nano-ronynnau aur a deufetelig a gynhelir. Mae ymchwil ym maes catalysis homogenaidd yn datblygu ligandau newydd i wneud yn fawr o fetelau’r prif grŵp a’r pontio yn y rhes gyntaf, yn arbennig mewn catalysis anghymesur.

Trwy weithio gyda phartneriaid mewn diwydiant, rydym ni’n gwneud yn fawr o’r ymchwil hon i gyflawni arloesedd ac effaith trwy ddatblygu prosesau catalytig newydd.

Sefydliad Catalysis Caerdydd

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd, a sefydlwyd yn 2008, yn ganolog i thema catalysis, ond hefyd yn croesdorri’r holl themâu ymchwil ac yn crynhoi aelodau o bob un ohonynt.