Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda busnesau

Rydym yn darparu ymchwil a gwasanaethau i sefydliadau o bob maint ar draws ystod eang o ddiwydiannau.

Gallwn eich helpu chi gyda chemeg biolegol, organig, anorganig a chemeg ffisegol trwy: 

Pam cydweithio â ni?

Ein profiad ni

Mae gan ein cymuned ymchwil dros 50 o wyddonwyr ôl-ddoethurol a 100 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Fe'u cefnogir gan gyrff cyllido cenedlaethol a rhyngwladol, fel yr EPSRC, y BBSRC, yr UE, Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Gymdeithas Frenhinol a'r NSF.

Ein cyfleusterau

Mae gennym gyfleusterau ymchwil rhagorol yn cynnwys:

  • amrywiaeth o sbectrometrau cydraniad uchel NMR
  • Sbecrometreg màs cydraniad uchel (CB-MS a GC-MS)
  • diffractometrau pelydr-x grisial a phowdwr sengl

Ein harbenigedd

Mae gennym hanes llwyddiannus o weithio gyda busnesau sy'n amrywio o'r lleol a'r cenedlaethol i rai o gwmnïau amlwladol mwyaf y byd. Mae ein cysylltiadau ymchwil gweithredol yn cwmpasu 40 o gwmnïau a 120 o brifysgolion a sefydliadau ymchwil o amgylch y byd.