Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-osod ynni tŷ cyfan mewn cartref pen teras yng nghymoedd de Cymru

Whole house energy retrofit

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi bod yn gweithio gyda ni ar y prosiect Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) i ôl-osod cartref pen-y-teras nodweddiadol yn ne Cymru sydd â wal solet ac yn wynebu'r dwyrain.

Mae Tai Wales & West wedi gweithio gyda ni ar y prosiect Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) yn edrych yn ôl ar wal solet nodweddiadol i'r dwyrain sy'n wynebu cartref pen-teras yn ne Cymru.

Gosodwyd cyfuniad o atebion carbon isel i leihau'r galw am ynni, rhoi ynni adnewyddadwy a storio ynni yn y cartref. Hefyd, roedd boeler nwy effeithlon yn rhoi gwres yn y cartref yn ogystal â dŵr poeth, ac roedd cawod a oedd yn cael ei bweru gan drydan. Roedd y teulu a oedd yn byw yn yr eiddo’n byw gartref y rhan fwyaf o'r amser.

Wrth gynllunio a dylunio’r gwaith o ôl-osod y tŷ cyfan, ystyriwyd amodau'r adeilad presennol a sut roedd y cartref yn debygol o gael ei ddefnyddio. Roedd y ffordd hon o weithio’n sicrhau bod y cyfuniadau priodol o dechnolegau carbon isel yn cael eu dewis. Cynhaliwyd rhaglen gynhwysfawr o fodelu a monitro cyn ac ar ôl i'r gwaith gael ei wneud.

Atebion carbon isel

Yr atebion carbon isel oedd yn cael eu defnyddio oedd:

  • lleihau'r galw am ynni drwy inswleiddio’r waliau mewnol (gweddlun blaen), inswleiddio’r waliau allanol (y talcen a’r waliau cefn) ac inswleiddio'r atig, ynghyd ag awyru mecanyddol ac adfer gwres (MVHR).
  • cyflenwad ynni adnewyddadwy yn sgîl gosod paneli solar ffotofoltäig integredig (BIPV) sy'n wynebu'r dwyrain a'r gorllewin, ynghyd â Chasglwr Solar Trydarthol (TSC) ar wal y talcen.
  • storio ynni gan ddefnyddio batri Tesla Powerwall 2 sydd wedi'i optimeiddio ar gyfer hunangynhaliaeth a'i gefnogi gan amrywiaeth o osodiadau trydanol.

Y canlyniadau

Unwaith i’r gwaith gael ei wneud, cadarnhaodd y preswylwyr fod y cartref yn teimlo'n fwy cyfforddus. Cynyddodd y tymheredd yn y lleoedd byw ar gyfartaledd ac roedd yn fwy cyson.

Roedd y system awyru yn cyflenwi aer glân, wedi'i gynhesu i'r lleoedd byw, ac yn tynnu aer llaith o'r ystafell ymolchi a'r gegin. Gostyngodd y lleithder cymharol cyfartalog, gan leihau'r risg bod cyddwysiad yn digwydd a llwydni’n tyfu.

Gwellhaodd sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni'r cartref o E (47) i B (89) ar ôl yr ôl-osod.

Roedd y gwelliannau inswleiddio yn lleihau'r angen am wresogi, a defnyddiodd y teulu 30% yn llai o nwy. Yn ystod yr un cyfnod, roedd trydan y paneli solar yn golygu bod y trydan yr oedd yn rhaid i'r teulu ei fewnforio o'r grid wedi lleihau 76%. Yn y gwanwyn a'r haf, cynhyrchwyd mwy o drydan gan y paneli solar ffotofoltäig (PV) nag a ddefnyddiwyd yn y cartref, ac anfonwyd yr hyn a oedd yn weddill yn ôl i'r grid.

Y gwersi a ddysgwyd

Roedd gosod paneli ffotofoltäig solar ar y toeau sy'n wynebu'r dwyrain a'r gorllewin yn golygu bod modd cynhyrchu ynni drwy gydol y dydd. Mae llawer o gartrefi yng nghymoedd y De ar y naill ochr i'r cymoedd sy'n rhedeg o'r de i'r gogledd, ac mae hyn yn golygu bod gosod paneli ar y ddau do yn opsiwn. Mae'r cartref hwn yn dangos bod hyn yn gweithio'n dda iawn.

Mae'r casglwr solar trydarthol yn creu aer cynnes sy'n mynd i mewn i'r system awyru ac yn lleihau'r ynni sydd ei angen i gynhesu'r cartref.

Mae'r system awyru yn gwella safon yr aer ac yn lleihau lleithder. Mae llai o leithder yn yr aer yn lleihau'r risg bod cyddwysiad yn digwydd a llwydni’n tyfu. Nododd y preswylwyr welliannau o ran iechyd anadlol.

Mae cael rheolwr adeiladu sy'n goruchwylio'r prosiect ac yn gweithio ochr yn ochr â chadwyn gyflenwi fedrus a hyblyg yn gwella effeithlonrwydd y gosodiadau. Hefyd, y rheolwr yw’r prif enw cyswllt i sicrhau bod y preswylwyr yn fodlon.

Cafodd yr ôl-osod ei gynllunio'n ofalus a'i ddylunio i gyd-fynd â thywydd gwell. Fodd bynnag, roedd oedi yn y gadwyn gyflenwi yn golygu bod y gwaith yn cael ei wthio nôl i fisoedd y gaeaf.  Wedyn, bu'n rhaid i'r gosodwyr geisio aildrefnu eu tasgau i gyd-fynd â'r cynllun gwaith diwygiedig. Nid oedd hyn bob amser yn bosibl, ac arweiniodd hyn at ragor o oedi a thensiwn gyda'r preswylwyr. Roedd y sefyllfa hon yn gofyn am gyfathrebu clir a chyson â’r preswylwyr er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gadarnhaol.

Tîm y prosiect

Mae tîm y prosiect yn cynnwys:

  • tîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Cymdeithas Tai Wales & West
  • contractwyr a chyflenwyr a fu’n cyflenwi ac yn gosod pob darn o dechnoleg carbon isel.