Ewch i’r prif gynnwys

Modelu datblygiadau tai newydd

Carmarthenshire new build

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd yr LBCE i gynghori ar gynllunio a dylunio 46 o gartrefi newydd ar draws dau safle yn y sir.

Byddwn hefyd yn ymgymryd â modelu cyfrifiadurol i wella'r dyluniadau ac ymgorffori technolegau carbon isel i leihau allyriadau carbon. Fel rhan o Gynllun Darparu Tai Fforddiadwy'r Cyngor, caiff y 46 cartref newydd eu hychwanegu at stoc dai cymdeithasol presennol y Cyngor a'u rhentu i bobl ar eu 'Cofrestr Dewis Tai'.

Rhannodd y Cyngor gynlluniau eu tai gyda thîm LCBE a greodd fodelau cyfrifiadurol er mwyn edrych ar y datrysiadau carbon isel posibl a fyddai'n colli llai o wres ac yn galluogi cynhyrchu ynni ar y safle yn defnyddio pŵer adnewyddadwy, yn ogystal â lleihau costau ynni i drigolion y dyfodol wrth leihau allyriadau carbon.

Amcanion

Yr amcanion oedd:

  • optimeiddio dyluniad y 46 cartref i gyflawni costau ynni isel a chynnal cysur y tu mewn
  • integreiddio technolegau cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy, lle bo hynny'n briodol, i leihau costau ynni i breswylwyr y dyfodol
  • ddefnyddio modelu i ddangos manteision datrysiadau carbon isel y gellir eu hatgynhyrchu ar dai domestig a gaiff eu hadeiladu o'r newydd

Roedd datrysiadau carbon isel yn cynnwys:

  • lleihau'r galw am ynni drwy ddefnyddio deunyddiau adeiladu sy'n colli llai o wres ac sydd â pherfformiad a dibynadwyedd uchel
  • gosod goleuadau ynni isel drwyddi draw
  • gosod pympiau gwres ffynhonnell aer (ASHP) ynghyd â systemau awyru ac adfer gwres mecanyddol (MVHR)
  • ymchwilio i'r potensial i gynhyrchu ynni yn defnyddio paneli solar ffotofoltäig (PV) a storio ynni ar y safle

Canlyniadau

Galluogodd y modelu cyfrifiadurol i'r tîm wneud yr argymhellion canlynol:

  • byddai gwella'r deunyddiau adeiladu gydag inswleiddio perfformiad uwch o fewn y waliau a'r llawr yn colli llai o wres o'r cartref
  • byddai ffenestri gwydr triphlyg yn colli llai o wres o'r cartref ond byddai'n ychwanegu cost sylweddol
  • byddai goleuadau LED yn lleihau costau ynni a'r allyriadau carbon cysylltiedig
  • byddai gosod pympiau gwres ffynhonnell aer gyda systemau awyru ac adfer gwres mecanyddol yn sicrhau gwres, dŵr poeth ac awyru i'r tai drwy un system
  • gellid gosod paneli solar ffotofoltäig ar bob un o'r tai i gynhyrchu ynni ar y safle a lleihau allyriadau carbon
  • dim ond rhai tai fyddai'n cynhyrchu digon o ynni i elwa o osod system storio batri oherwydd gwahanol gyfeiriadedd y tai ar y safle

Pe bai'r holl opsiynau uchod yn cael eu hymgorffori yn nyluniad y tai newydd, gellid cyflawni allyriadau CO² blynyddol negyddol.

O ganlyniad i'r argymhellion hyn, mae'r Cyngor wedi mynd y tu hwnt i safonau'r Rheoliadau Adeiladu presennol ac wedi ymgorffori lefelau uwch o insiwleiddio thermol, paneli solar ffotofoltäig, gwresogi nwy effeithlon o ran ynni a goleuadau LED ym mhob un o'r tai newydd ar y ddau safle. Hefyd, bydd dau o'r tai pedair ystafell wely yn mabwysiadu mwy o'r argymhellion i brofi'r technolegau diweddaraf.

Y gwersi a ddysgwyd

Er bod dyluniad y cartrefi'n debyg, mae eu potensial i sicrhau gwres o'r haul drwy'r ffenestri a chynhyrchu ynni o baneli solar ffotofoltäig yn wahanol iawn. Mae hon yn ystyriaeth arbennig o bwysig wrth ddewis y technolegau mwyaf addas ar gyfer pob eiddo.

Dangosodd modelu manwl pa ofodau to fyddai'n cynhyrchu'r ynni mwyaf a'r cyfanswm posibl o ynni a gâi ei gynhyrchu ym mhob eiddo. Yn seiliedig ar gyfeiriadedd, gallai rhai tai gael paneli ar ddwy ochr y to i gynhyrchu ynni tra byddai eraill ond yn elwa o baneli solar ffotofoltäig ar un ochr i'r to.

Galluogodd y modelu i'r tîm nodi pa dai oedd â'r potensial i gynhyrchu llawer o ynni o'r paneli solar ffotofoltäig ac a allai elwa o osod system fatri i storio'r ynni hwn. Ni fyddai pob tŷ yn elwa o osod system fatri gan nad yw eu paneli solar ffotofoltäig yn gallu cynhyrchu digon.

Roedd yn bwysig bod y modelu cyfrifiadurol yn adlewyrchu senarios ar gyfer tai na fyddent yn sicrhau llawer o wres o'r haul a'r rhai a fyddai, gan y byddai eu gofynion gwresogi ac oeri yn dra gwahanol.

Roedd y prosiect yn dangos manteision defnyddio modelu cyfrifiadurol i lywio dyluniad adeiladau ac yn cefnogi cymhwyso dull gweithredu system ynni gyfan mewn tai.

Rhoddodd y prosiect dystiolaeth gredadwy i'r Cyngor am y dull systemau tŷ cyfan sydd wedi eu galluogi i fabwysiadu a phrofi technolegau arloesol, fydd yn dylanwadu ar eu nodau Polisi yn y dyfodol.

Tîm y prosiect

Mae tîm y prosiect yn cynnwys:

  • Tîm LCBE yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Cyngor Sir Gaerfyrddin.