Ewch i’r prif gynnwys

Gwella dyluniad adeilad pencadlys newydd yr heddlu

Police headquarters

Defnyddiwyd modelu cyfrifiadurol i wella dyluniad adeilad pencadlys newydd arfaethedig yr heddlu yn Ne Cymru a fyddai'n helpu i fodloni gofynion ymrwymiad llywodraeth y DU ar newid yn yr hinsawdd a'r targed nwy tŷ gwydr sero net ar gyfer 2050.

Ymchwilio’r atebion a fyddai'n lleihau'r gwres a gollir o'r adeilad, i wella effeithlonrwydd ynni'r dyluniad ac i integreiddio technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy i ffabrig yr adeilad. Crëwyd model cyfrifiadurol o'r adeilad a oedd yn galluogi'r tîm i ddeall yr amodau mewnol a'r gofynion ynni o dan amodau'r gaeaf a'r haf, yn ogystal â'r potensial i gynhyrchu ynni gan ddefnyddio pŵer solar.

Amcanion

  • Gwneud y gorau o ddyluniad adeilad masnachol i gyflawni perfformiad carbon isel tra'n cynnal tymheredd cyfforddus tu mewn.
  • Ymchwilio i'r potensial i integreiddio cyflenwad ynni adnewyddadwy a thechnolegau storio ynni i leihau defnydd ynni carbon-ddwys o'r grid.
  • Dangos manteision atebion carbon isel y gellir eu hatgynhyrchu ar raddfa fasnachol gan ddefnyddio modelu.

Atebion carbon isel

  • Lleihau'r galw am ynni yn yr adeiladau trwy ddefnyddio inswleiddio a ffenestri perfformiad uchel.
  • Optimeiddio strategaethau dylunio i leihau croniad gwres yn yr adeilad.
  • Gwella a rheoli awyru yn yr adeilad.
  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan ddefnyddio paneli solar.

Deilliannau

Dangosodd modelu cyfrifiadurol y byddai'r adeilad yn mynd yn anghyfforddus o boeth ar adegau yn ystod yr haf a'r gaeaf yn seiliedig ar y dyluniad cychwynnol. Byddai angen system awyru gonfensiynol i reoli hyn a fyddai'n cynyddu'n sylweddol y defnydd o ynni a chostau i gynnal yr adeilad.

Gellid rheoli'r gwres sy'n cronni yn yr adeilad trwy gyfuniad o welliannau i'r dyluniad, defnyddio offer a goleuadau ynni-effeithlon a ffenestri perfformiad uchel a strategaethau awyru a chysgodi effeithiol. Gellid hefyd ymchwilio i effaith llif aer yn yr adeilad gyda modelu pellach.

Dangosodd modelu na fyddai paneli solar ar y to na'r ffasâd allanol yn gallu cynhyrchu digon o ynni i fodloni gofynion ynni'r adeilad.

Y gwersi a ddysgwyd

Oherwydd swyddogaeth a phatrymau defnydd yr adeilad hwn, byddai unrhyw ynni a gynhyrchir gan baneli solar yn cael ei ddefnyddio wrth iddo gael ei gynhyrchu. Felly, byddai'n gwbl ddiangen storio batris gan na fyddai unrhyw gynhyrchu dros ben.

Mae'r prosiect wedi dangos manteision defnyddio modelu cyfrifiadurol i lywio dyluniad adeiladau ac wedi cefnogi'r ffaith y gellid cymhwyso'r dull gweithredu system ynni gyfan i adeiladau masnachol mawr.

Tîm y prosiect

  • Tîm LCBE yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Powell Dobson Architects Limited
  • Willmott Dixon Limited