Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Papurau Gwaith

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae'r Gyfres Papurau Gwaith yn cyhoeddi ac yn hyrwyddo gwaith ein hymchwilwyr at ddibenion dosbarthu ac yn hyrwyddo datblygiad allbynnau ymchwil ar gyfer eu cyhoeddi ymhellach mewn cyfnodolion academaidd.

Nod y Gyfres Papurau Gwaith yw lledaenu canlyniadau ymchwil cychwynnol, adroddiadau technegol, a thrafodion/cyflwyniadau cynadleddau i alluogi ymchwilwyr i gyfleu canfyddiadau eu gwaith i gynulleidfa ehangach mewn modd amserol.

Manteision Cyfres Papurau Gwaith Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw y bydd:

  • yn lledaenu canlyniadau ymchwil yn gyflym
  • yn cyfleu canlyniadau cychwynnol i gynulleidfaoedd academaidd ac anacademaidd allanol
  • yn codi ymwybyddiaeth o ymchwil a wneir yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
  • yn derbyn adborth mewnol ac allanol ar waith sydd ar y gweill
  • yn ennyn diwylliant ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
  • yn cynnwys ymchwil yr Ysgol yn awtomatig ar gronfa ddata'r Llyfrgell Brydeinig.

Y drefn gymedroli a golygu

Mae angen cyflwyno papurau i'r tîm golygyddol: poortingaw@cardiff.ac.uk ac yna cânt eu hadolygu'n annibynnol gan gymheiriaid sy'n aelodau academaidd eraill o'r Ysgol (mewn rhai achosion efallai yr holir adolygwyr allanol). Os yw safon papur yn ddigon uchel caiff ei gynnwys yng Nghyfres Papurau Gwaith Ysgol Pensaernïaeth Cymru a'i gyhoeddi ar ei gwefan.

Noder na ellir ystyried papurau i'w cyhoeddi yn y Gyfres Papurau Gwaith os ydynt wedi'u cyhoeddi yn rhywle arall, wedi eu derbyn i'w cyhoeddi neu'n cael eu hadolygu. Fodd bynnag, yn dilyn hynny, gellir cyflwyno, cyhoeddi neu anfon papurau a gyflwynwyd i'w cyhoeddi mewn mannau priodol eraill fel cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, llyfrau (penodau) neu drafodion cynadleddau.

Seilir y penderfyniad i gyhoeddi papur fel rhan o Gyfres Papurau Gwaith Ysgol Pensaernïaeth Cymru ar:

  • ansawdd yr ysgrifennu a chyflwyniad y data a chanfyddiadau ymchwil
  • cyfanrwydd y data yn nhermau cyflwyno amcanion, adolygiad llenyddiaeth, dulliau ymchwil, canfyddiadau a goblygiadau ar gyfer ymchwil academaidd, polisi a/neu ymarfer pellach.

Canllawiau cyflwyno

Gellir cyflwyno papurau i'r tîm golygyddol: poortingaw@caerdydd.ac.uk ac fe'u hadolygir ar sail dreigl wrth iddynt gael eu cyflwyno. Caiff y papurau gwaith a dderbynnir eu cyhoeddi ar wefan Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac anfonir copi i'r Llyfrgell Brydeinig.

  • Rhaid cyflwyno'r llawysgrif (tudalen deitl, crynodeb, prif destun, ffigurau, tablau, cyfeirnodau ac atodiadau) mewn un ddogfen ar fformat Word.
  • Disgwylir y bydd testun y llawysgrif (ac eithrio crynodeb, ffigurau, tablau, cyfeirnodau ac atodiadau) rhwng 3,000 a 6,000 gair, er y caiff testunau hirach a byrrach eu hystyried hefyd yn achlysurol.
  • Rhaid i bob cyflwyniad ddefnyddio templed Papur Gwaith Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
  • Dylai'r dudalen teitl gynnwys teitl (a lle bo'n briodol, isdeitl). Dylai'r dudalen teitl hefyd gynnwys enw(au) yr awdur(on).
  • Ni ddylai'r crynodeb fod dros 200 o eiriau.
  • Gellir defnyddio hyd at saith gair allweddol i ddisgrifio'r ymchwil.
  • Gellir defnyddio unrhyw strwythur testun. Fodd bynnag, mae angen fformatio'r cynnwys yn ôl templed/canllawiau'r Papur Gwaith; gofynnir i chi beidio â defnyddio mwy na phedair lefel pennawd, ac mae angen cysylltu'r dudalen cynnwys yn awtomatig â'r testun.
  • Dylid mewnosod yr holl ffigurau a thablau yn y testun yn y lleoliad y dylent ymddangos.
  • Dylid cadw troednodiadau i isafswm. Os cânt eu defnyddio, dylid eu nodi yn y testun gyda ffigurau uwch-sgript a'u casglu ar ddiwedd y testun (cyn y cyfeirnodau). Dylai'r troednodiadau fod yn ddealladwy heb orfod darllen y testun.
  • Rhaid defnyddio dull cyfeirnodi cromfachol drwyddi draw (e.e. Harvard). Rhaid i'r arddull cyfeirnodi fod yn gyson drwyddi draw. Dylai'r awdur(on) dalu sylw penodol i gywirdeb a chyflwyniad cywir y cyfeirnodau.
  • Rhaid cydnabod pob ffynhonnell o gymorth yn y llawysgrif. Dylech gynnwys rhif y prosiect ar gyfer prosiectau ymchwil a gyllidir yn allanol.
  • Rhaid i'r awdur(on) gyflawni'r holl anghenion fformatio a golygu.
  • Yr awdur(on) sy'n cadw'r hawlfraint ac mae pob barn a fynegir yn y papur gwaith yn eiddo i'r awdur(on) yn unig ac ni ddylid ystyried mai dyma farn Ysgol Pensaernïaeth Cymru na Phrifysgol Caerdydd.

Seminarau

Bydd cyfres seminarau yn cyd-fynd â Chyfres Papurau Gwaith Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Disgwylir y bydd yr awduron yn cyflwyno eu gwaith i'r Ysgol ac yn trafod materion a godir yn y papurau a gyhoeddir. Caiff dyddiadau a phynciau eu cyhoeddi a'u lledaenu pan gaiff papur ei dderbyn.

Papurau gwaith

TeitlRhif y PapurAwdur(on)
The Introduction of a Single-Use Carrier Bag Charge in Wales: Attitude Change and Behavioural Spillover Effects01-2012Wouter Poortinga, Lorraine Whitmarsh, Christine Suffolk
Public Perceptions of Climate Change and Energy Futures Before and After the Fukushima Accident01-2013Wouter Poortinga, Midori Aoyagi
Segmenting for Sustainability: The Development of a Welsh Model to Engage the Public in Sustainability and Sustainability-Related Issues01-2014Wouter Poortinga, Andrew Darnton
Arbed recipient’s views and experiences of living in hard-to-heat, hard-to-treat houses in Wales: results from three focus groups conducted in South Wales01-2015Charlotte Grey, Shiyu Jiang a Wouter Poortinga
Fuel Poverty, Thermal Comfort, and Health in Low-Income Areas in Wales: Results from the First Wave of Data Collection for the Arbed Health Impact Study02-2015Charlotte Grey, Shiyu Jiang a Wouter Poortinga
Winter Indoor Air Temperature and Relative Humidity in Hard-To-Heat, Hard-To-Treat Houses in Wales: Results from a Household Monitoring Study03-2015Shiyu Jiang, Charlotte Grey, Wouter Poortinga a Chris Tweed
Conceptualising Low Carbon Innovation Systems: Regions, Materiality and Networks01-2016Carla De Laurentis a Malcolm Eames
Renewable Energy Innovation Systems at the Regional Level: A Conceptual Framework to Address Materiality and Spatial Scale02-2016Carla De Laurentis, Peter Pearson a Malcolm Eames
The Effect of a Housing Intervention on the Quality of the Neighbourhood Environment03-2016Nikki Jones, Wouter Poortinga, Simon Lannon a Tatiana Calve
Material Difference and Regional Institutions in Low Carbon Transitions: some regional examples from Italy and the UK01-2017Carla De Laurentis, Richard Cowell