Y Ganolfan Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy
Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â heriau o bwys yng nghyd-destun gofal treftadaeth adeiledig yn y dyfodol, a hynny o ran newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol.
Gan gadw blaenoriaethau strategol mewn golwg, rydym yn gweithio ar draws disgyblaethau i ddatblygu arbenigedd byd-eang, boed gwneud cofnod o dreftadaeth sydd wedi ennyn anghytuno mawr, neu ddadansoddi cylch bywyd a monitro amgylcheddol.
Rydym yn cydweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gefnogi perthnasoedd effeithiol a symbiotig â phartneriaid megis Historic England, Amgylchedd Hanesyddol yr Alban, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cymdeithas Technoleg Gadwraeth, sefydliad treftadaeth DRONAH, Sefydliad Siartredig yr Atwrneiod Patent (CIPA), a’n partneriaid academaidd, sef: SPA Bhopal, Coleg y Brifysgol Dulyn, SOAS, Prifysgol Illinois Urbana-Champaign, Politecnico di Milano.
Ymchwil a ariennir yn allanol
Teitl | Asiantaeth/partneriaid cyllido | Dyddiad | Gwerth |
---|---|---|---|
Harbourview. Gweler hefyd: Harbyrau hanesyddol Iwerddon a Chymru (Prif Ymchwilydd: Yr Athro Oriel Prizeman). | ESRC (Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) ac IRC (Cyngor Ymchwil Iwerddon) | 2021–22 | £9,878 |
Shelf-Life: Ailddychmygu dyfodol Llyfrgelloedd Cyhoeddus Carnegie. Gweler hefyd: Llyfrgelloedd Carnegie Prydain (Prif Ymchwilydd: Yr Athro Oriel Prizeman). | Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) | 2016–21 | £203,351 |
Monitro Hygrothermol Paneli Mewnlenwi Amnewid Fframiau Pren (Prif Ymchwilydd: Dr Chris Whitman, Cyd-ymchwilydd: Yr Athro Oriel Prizeman). | Historic England | 2019–22 | £50,525 |
Trefi Temlau Tamil: Cadwraeth a Chynnen (Prif Ymchwilydd: Yr Athro Adam Hardy, Cyd-ymchwilydd: Yr Athro Oriel Prizeman). | AHRC | 2018–21 | £175,194 |
Cynnal a chadw cydberthynol, effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd ar gyfer adeiladau traddodiadol yn y DU (Prif Ymchwilydd: yr Athro Oriel Prizeman, Cyd-ymchwilydd: Dr Chris Whitman). | Cadw, Historic Scotland / Historic England | 2016 | £7,500 |
The historic city of Ajmer-Pushkar (Prif ymchwilydd: Yr Athro Adam Hardy, Cyd-ymchwilydd: Yr Athro Oriel Prizeman). | AHRC | 2016 | £30,516 |
Hilary Wyatt: Towards the Development of a Sustainable Framework for the Coherent Conservation of Historic Small-Scale Tidal Harbours in the UK (Prif Oruchwylydd: Yr Athro Oriel Prizeman). | Ysgoloriaeth PhD yr EPSRC | 2016–22 |
Ymgynghoriaeth a ariennir yn allanol
Teitl | Asiantaeth/partneriaid cyllido | Dyddiad | Gwerth |
---|---|---|---|
Ymgynghoriaeth Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy (Yr Athro Oriel Prizeman): Amgueddfa Lechi Cymru. | Canolfan Dreftadaeth y Byd UNESCO | 2022 | £6,675 |
Gwasanaethau ymgynghori i Historic England mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn cysylltiad ag addasu a lliniaru yn dilyn newid yn yr hinsawdd (Dr Chris Whitman). | Historic England | 2020–21 | £13,522 |
Laser Scan Elements of Caerphilly Castle | Taliesin Construction | 2014–15 | £5,384 |
Grantiau Cynghorwyr arbenigol ar gyfer Addoldai Cymru (Yr Athro Oriel Prizeman). | Cronfa Dreftadaeth y Loteri | 2013–14 | £5,564 |
Arweinydd academaidd
Aelodau’r grŵp
Melina Guirnaldos Diaz
Lecturer in Architecture and Urban Design/ Academic Staff