Ewch i’r prif gynnwys

Man Arddangos

Mae’r Man Arddangos yng nghanol yr adeilad, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan y staff a’r myfyrwyr ar gyfer cyfarfodydd mawr, cynadleddau, digwyddiadau, arddangosiadau a diwrnodau agored.

Bydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn arddangos deunyddiau ac yn cynnal digwyddiadau yng nghanol ei hadeilad adnewyddedig. Mae’r Man Arddangos helaeth â nenfwd uchder dwbl yn gyfleuster i’w ddefnyddio gan y staff a’r myfyrwyr ar gyfer sioeau gradd, cyfarfodydd mawr, gweithdai dylunio, cynadleddau a seminarau, digwyddiadau rhwydweithio a diwrnodau agored. Mae’n cysylltu gwahanol loriau ac ochrau’r adeilad, gan gynnwys gweithgareddau ac arbenigeddau amrywiol yr Ysgol.

Mae’r man newydd yn adfer neuadd gynnull a oedd yn rhan o adeilad gwreiddiol y Coleg Technegol, fel y’i dyluniwyd gan Percy Thomas ac Ivor Davies. Cafodd ei rhannu yn y 1990au i greu caffi ar y llawr gwaelod a darlithfa uwchben. Felly, gellir ystyried ei fod ar y naill law yn adeilad newydd sbon at ddefnydd yr Ysgol ac ar y llaw arall yn rhan o strategaeth dreftadaeth o fewn y prosiect adnewyddu sydd wedi ceisio cadw ac adfer nodweddion gwreiddiol yr adeilad ond ei addasu i anghenion ysgol pensaernïaeth yn y 21ain ganrif.

Lleoliad

0.66, llawr gwaelod, Adeilad Bute

Cysylltu

Architecture operations