Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Bute

Adeilad Bute
Adeilad Bute

Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB

Mae Adeilad Bute wedi ei leoli ar Rodfa’r Brenin Edward VII. Mae yna fynediad gwastad o’r heol i flaen yr adeilad, wrth y pwyntiau mynediad i gwrt blaen yr adeilad. Gallwch gael mynediad i’r maes parcio o Rodfa Brenin Edward VII, a weithredir gyda cherdyn adnabod Prifysgol Caerdydd. Mae'r darllenydd cardiau yn hygyrch a gallwch ei ddefnyddio wrth eistedd yn y car.

Mae desg y dderbynfa wedi’i lleoli yn y brif fynedfa, ar y dde. Mae cylchwifren yn y dderbynfa. Defnyddiwch y gosodiad ‘T’ ar y dyfais clyw i ddefnyddio’r cylchwifren. Mae yna esgyniad isel, byr (1/12) wrth ddrysau’r brif fynedfa. Mae yna ddwy set o ddrysau dwbl i gael mynediad i’r adeilad, mae’r ddwy set yn awtomatig (mae’r drysau yn agor oddi wrthoch).

Mae yna hefyd fynedfa hygyrch ar ochr yr adeilad o’r maes parcio. Mae yna ddau le parcio hygyrch wedi’u lleoli o flaen y fynedfa wrth ochr yr adeilad. Mae yna esgyniad isel yn arwain at y drws. Mae angen cerdyn adnabod dilys y Brifysgol er mwyn agor y drws. Cysylltwch â’ch tiwtor, rheolwr neu gydgysylltydd digwyddiad os oes angen mynediad drwy’r drws. Mae’r darllenydd cardiau wedi’i leoli i’r chwith ac wedi'i osod i ffwrdd o’r drws sy’n awtomatig (agor tuag atoch). Er mwyn gadael drwy’r drws hwn, gwasgwch y botwm gwyrdd i’r chwith o’r drws.

Mae toiledau naillryw hygyrch wedi’u lleoli ar y llawr cyntaf a’r ail. Mae toiled y llawr cyntaf (rhif ystafell 1.62) wedi’i leoli yn yr ardal landin, gyferbyn â mynedfa'r llyfrgell. Mae toiled yr ail lawr (rhif ystafell 2.51) wedi’i leoli yn yr ardal landin.

Mae un lifft yn Adeilad Bute, sydd yn rhoi mynediad i’r llawr gwaelod, llawr uchaf, a lloriau 1 a 2. Mae’r lifft wedi’i leoli i’r dde wrth y brif fynedfa, tu hwnt i ddesg y dderbynfa.

Mae mynediad llawn o’r lifft a’r grisiau i’r toiled hygyrch, Darlithfa Birt Acres a mynedfa Llyfrgell Bute. Mae pob ardal arall ar y llawr cyntaf â mynediad cyfyngedig at ddibenion diogelwch. Mae yna bedair set o ddrysau dwbl gyda mynediad bysellbad cyfyngedig. Mae angen côd er mwyn agor y drysau, a gallwch ofyn amdano yn Llyfrgell Bute (029 2087 4611) neu wrth eich tiwtor. Nodwch, mae’r côd yn newid yn reolaidd ar gyfer dibenion diogelwch.

Pan fydd y côd wedi’i dderbyn bydd y drysau yn agor yn awtomatig. Mae bysellbad wedi’i osod 1100mm uwchben y llawr. Mae'r bysellbad wedi’i leoli o leiaf 2.5 metr i ffwrdd o’r drysau os mae’r drysau’n agor yn awtomatig tuag atoch chi.

Mae gan Adeilad Bute siop goffi hygyrch ar y llawr gwaelod, wedi’i lleoli gyferbyn y prif fynedfa.

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Prin yw'r parcio ar y campws

Parcio Car

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 70 o leoedd parcio beic ar gyfer yr adeilad hwn.