Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob un o'n harferion a'n gweithgareddau.
Ein nod yw sefydlu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy’n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd neu gred arall, a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Ein gwerthoedd
Wrth weithio ochr yn ochr â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol, rydym wedi ymrwymo i:
- gydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau yn y ffyrdd rydym yn cydweithio ac yn rhyngweithio ag eraill
- dileu gwahaniaethu yn erbyn cydraddoldeb a chynnal gwerthoedd allweddol urddas, cwrteisi a pharch
- galluogi’r holl fyfyrwyr a staff i gael cyfleoedd.
Gweithgareddau diweddar
Rydym yn annog ein holl staff i anelu at arweinyddiaeth ac mae menywod bellach yn ymgymryd â 46% o swyddogaethau arwain allweddol. Rydym hefyd yn cefnogi ein hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a’n staff addysgu trwy geisiadau grant ar y cyd ac yn rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau arwain.
Mae ein staff a'n myfyrwyr yn mwynhau amgylchedd cydweithredol bywiog ac yn dod o ystod o gefndiroedd cenedlaethol, diwylliannol a phroffesiynol amrywiol; ar hyn o bryd mae staff yr Ysgol yn tarddu o 20 gwlad wahanol o bob cwr o'r byd.
Yn 2020 fe wnaethom ddathlu amrywiaeth rhyngwladol ein cymuned gyda digwyddiad yn dwyn ynghyd garfan fawr o fyfyrwyr PhD a staff rhyngwladol yr Ysgol. Roedd y digwyddiad yn gyfle i flasu bwyd, cerddoriaeth a champweithiau pensaernïol o holl gyfandiroedd y byd a'i nod oedd dathlu amrywiaeth ryngwladol a'r sbectrwm eang o ymchwil wreiddiol o ansawdd uchel yn ein Hysgol.
Mae ein holl staff yn dilyn hyfforddiant gorfodol ar ragfarn ddiarwybod ac ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae'r rhai sy'n ymwneud â chadeirio paneli recriwtio yn dilyn y cwrs Cadeirio Paneli Penodi Prifysgolion.
Rydym yn cefnogi gweithio hyblyg, gan annog cynnal cyfarfodydd ar ddydd Mercher a'u gorffen erbyn 4.30pm. Mae staff yn gymwys i wneud cais am seibiannau gyrfa o 6-36 mis ac mae'r Ysgol wedi gweithredu Cynllun Cymorth i Ddychwelwyr ar gyfer staff sy'n dychwelyd o absenoldeb estynedig, gan gynnig llai o addysgu a chymorth ychwanegol i ailsefydlu ymchwil. Mae staff a myfyrwyr hefyd wedi cael cyfle i fynd i sesiynau wedi'u trefnu sy'n mynd i'r afael â chydbwysedd gwaith/bywyd academaidd gyda siaradwyr gwadd.
Rhagor o wybodaeth am ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth trwy ddarllen polisïau'r brifysgol.