Ewch i’r prif gynnwys

Ailgynllunio Adeilad Bute

Yn rhan o fuddsoddiad mawr, rydym wedi ailwampio adeilad rhestredig Gradd II Ysgol Pensaernïaeth Cymru, sef Adeilad Bute, er mwyn ymgorffori amrywiaeth eang o gyfleusterau pwrpasol i’r myfyrwyr a’r staff.

Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnwys parth pwrpasol ar gyfer crefft a gwaith saernïo digidol, stiwdios wedi’u hailgartrefu gyda’i gilydd i wella’r amgylchedd a’r diwylliant stiwdio, ynghyd â stiwdio hybrid ychwanegol a Labordy Byw: man lle gall y byd academaidd, cymunedau a diwydiannau weithio gyda’i gilydd.

Mae Adeilad Bute ar ei newydd wedd yn cynnwys man pwrpasol i ôl-raddedigion, gan gynnwys ystafelloedd wedi’u hailwampio, awditoriwm newydd ar gyfer cynnal symposia a chynadleddau a mannau ar gyfer ymlacio a thrafod mewn grwpiau bach sy’n cefnogi gweithgareddau anffurfiol a chymdeithasol.

Nodwedd allweddol o'r prosiect yw’r Labordy Byw sy’n helpu i wella effaith ein hymchwil ryngddisgyblaethol. Mae’n llenwi cyfleuster pwrpasol a hawdd ei gyrraedd sy’n cynnwys offer clyweledol o’r radd flaenaf ac ystafell arsylwi. Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer astudiaethau, cyflwyniadau a gweithdai gyda chydweithwyr allanol.