Ewch i’r prif gynnwys

Mannau i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

Mae gan ein myfyrwyr ôl-raddedig eu mannau pwrpasol eu hunain yn adeilad Bute ar gyfer gorffwys ac astudio.

Nod y tair ystafell sydd wedi’u neilltuo ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n astudio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw cynnig gofod desg personol pwrpasol i bob myfyriwr amser llawn drwy gydol eu cyfnod astudio ble telir eu ffioedd. Mae’r ystafelloedd uchder dwbl wedi’u lleoli ar gornel ogledd-orllewinol yr adeilad ar y llawr cyntaf ac yn elwa o olygfeydd dros y Deml Heddwch, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â Gardd Goed Parc Bute. Mae gan bob myfyriwr gyfrifiadur personol pwrpasol a charrel acwstig eu hunain yn ogystal â locer yn yr ystafell. Mae'r mannau astudio i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi'u lleoli'n gyfleus drws nesaf i'r llyfrgell a gerllaw'r mwyafrif o swyddfeydd ymchwil yr ysgol gan ddod â myfyrwyr i gysylltiad dyddiol ag academyddion ac ymchwilwyr ar draws sbectrwm gweithgareddau'r ysgol. Cynhelir cyfarfodydd anffurfiol yn y gegin a’r ardal eistedd bwrpasol, sy’n rhydd i unrhyw fyfyriwr ymchwil ac academydd sy’n gweithio yn y rhan hon o’r adeilad i’w defnyddio. Trefnir cyfarfodydd dros goffi gyda'r Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig a staff y Swyddfa Ymchwil bob yn ail fore Mercher. Mae cyfarfodydd i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn cael eu trefnu’n barhaol mewn blociau er mwyn galluogi myfyrwyr i drefnu eu cyfarfodydd, seminarau a digwyddiadau eu hunain.

Lleoliad

Llawr Cyntaf

  • Cegin i staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, 1.3 (mynediad agored)
  • Mannau i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, 1.40, 1.50, 1.51

Cyswllt

Architecture operations