Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi prosiectau dylunio ac adeiladu mewn gwledydd sy'n datblygu

Digwyddiad ar y cyd sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gyfrannu at brosiectau dylunio ac adeiladu go iawn mewn gwledydd sy’n datblygu, mewn partneriaeth â stiwdio CAUKIN.

Stiwdio dylunio pensaernïol yw stiwdio CAUKIN sy'n arbenigo mewn prosiectau cymunedol mewn gwledydd sy'n datblygu. Rhoddodd y digwyddiad hwn ar y cyd gyfle i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol, MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy ac MA Dylunio Pensaernïol ddefnyddio eu sgiliau dylunio i gyfrannu at y prosiectau hyn.

Roedd y gweithgareddau'n canolbwyntio ar brosiectau y mae CAUKIN yn gweithio arnyn nhw yn Sambia, Fanwatw a Ffiji i ddylunio ac adeiladu cyfleusterau cymunedol. Gan fod y cyflenwad tanwydd a thrydan yn gyfyngedig iawn yn y prosiectau hyn, bu’r myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i greu dyluniad goddefol a fyddai’n gwella cysur y preswylwyr. Dull yw dylunio goddefol sy'n manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau naturiol ar gyfer gwasanaethau megis gwresogi, oeri ac awyru. Er mwyn cyflawni’r dull ynni sero hwn mae’n rhaid ystyried ffactorau cymdeithasol ac economaidd sy'n dylanwadu ar y cymunedau sy'n cael eu helpu.

Crëwyd grwpiau’r myfyrwyr yn seiliedig ar y prosiect roedden nhw eisiau ei gefnogi i greu’r cynnig dylunio. Mae strategaethau dylunio goddefol yn dylanwadu ar y dewisiadau o ran lleoliad, ffurf cyfeiriadedd a deunyddiau'r adeiladau. Ymhlith yr ystyriaethau eraill roedd y defnydd o ddeunyddiau lleol nad oedd angen offer, gosodiadau na sgiliau arbenigol ar eu cyfer.

Ar ddiwedd y dydd cyflwynodd pob grŵp ei gynnig dylunio i un o gynrychiolwyr tîm CAUKIN ynghyd â'r dystiolaeth a oedd yn cefnogi ei syniadau. Rhoddwyd y deunyddiau dylunio a ddarparwyd gan y grwpiau o fyfyrwyr i CAUKIN er mwyn helpu i gyfleu'r syniadau i'w tîm o ddylunwyr. Roedd y digwyddiad yn ffordd effeithiol o gynnwys sgiliau arbenigol yn rhan o ddyluniadau heriol nad oes ganddyn nhw’r cymorth ariannol i dalu am ymgynghorwyr.

Pobl

Dr Vicki Stevenson

Dr Vicki Stevenson

Reader, Course Director for MSc Environmental Design of Buildings, Director of Postgraduate Research

Email
stevensonv@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0927