Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno Cymru i'r Byd

18 Tachwedd 2016

Seremoni arwyddo Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Xiamen
O'r chwith: Y Gwir Anrhydeddus Prif Weinidog Carwyn Jones AC, Cyn Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan, Prifysgol Caerdydd ac Arlywydd Zhu, Prifysgol Xiamen

Heddiw, mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb partneriaeth gyda Phrifysgol Xiamen i gynyddu ymchwil ar y cyd, rhannu arferion gorau ym myd addysg, a chreu mwy o gyfleoedd i gyfnewid myfyrwyr a staff.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o ymestyn ein perthynas hirsefydlog â Xiamen. Mae partneriaethau rhyngwladol fel hyn yn hanfodol i’n gwaith byd-eang ac enw da ein hymchwil, ac maent yn cyflwyno Cymru i'r byd.”

Llofnodwyd y cytundeb gan Arlywydd Zhu o Brifysgol Xiamen a’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, gyda Phrif Weinidog Cymru yn bresennol.

Meddai Arlywydd Zhu o Brifysgol Xiamen: “Mae ein cytundeb newydd gyda Phrifysgol Caerdydd yn seiliedig ar berthynas hisefydlog a chynhyrchiol, ac rydym yn hynod falch o’i chryfhau ymhellach..."

"Rydym yn rhannu uchelgais rhygwladol Caerdydd ac yn edrych ymlaen at gydweithio ar brosiectau newydd ac arloesol fydd yn gallu cynnig manteision i Gymru a Tsieina.”

Arlywydd Zhu Prifysgol Xiamen

Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yn y DU i efeillio â dinas yn Tsieina pan ddaeth yn bartner â Xiamen dros dri deg mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae prifysgolion Caerdydd a Xiamen wedi cydweithio'n agos mewn nifer o feysydd sydd o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys meysydd o gryfder yng Nghaerdydd fel catalysis.

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Rydw i'n croesawu cytundeb heddiw rhwng Prifysgolion Caerdydd a Xiamen a'r cyfle i ddatgan yn glir unwaith eto bod croeso bob amser i fyfyrwyr tramor yng Nghymru..."

"Ar ôl Brexit, mae angen system addysg uwch arnom sy'n rhoi rhwydd hynt i sefydliadau gydweithio â'i gilydd ledled y byd. System sy'n caniatáu i fyfyrwyr deithio ac astudio mewn gwledydd eraill ac sy’n gwneud yn siŵr bod Cymru’n parhau i groesawu pobl o dramor sydd am ddysgu a gweithio yma."

Carwyn Jones AC Prif Weinidog Cymru

"Rhaid i ni barhau i gydweithio fel hyn. Byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion i wneud yn siŵr bod y pontydd hyn yn cael eu cynnal a'u cryfhau yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd yr Athro Riordan: “Mae’r cydweithio rydyn ni’n ei wneud gyda phartneriaid academaidd ar draws y byd yn cynhyrchu ymchwil sy'n gallu cael effaith go iawn a mynd i’r afael â heriau byd-eang. Mae ein perthynas â Xiamen eisoes yn helpu i greu dinasoedd mwy cynaliadwy gan fod yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn gweithio gyda Phrifysgol Xiamen ac Athrofa Cynllunio a Dylunio Xiamen i sefydlu Canolfan Ymchwil ar gyfer Dinasoedd Trigiadwy ac Ecolegol. Bydd ymchwilwyr yn y Ganolfan yn cydweithio i edrych ar sut y gallwn wella ansawdd bywyd ac ecoleg dinasoedd yn Tsieina ac yn y DU yng nghyd-destun twf trefol."

Prif Adeiladau, Prifysgol Xiamen
Prifysgol Xiamen

Roedd creu Sefydliad Confucius yng Nghaerdydd yn 2008 ymhlith manteision blaenorol y berthynas gynyddol rhwng Caerdydd a Xiamen.  Mae’r Sefydliad yn darparu rhaglen estynedig o addysg iaith Tsieinëeg, yn hyrwyddo diwylliant Tsieineaidd yng Nghymru, ac yn cefnogi cydweithio rhwng Cymru a Tsieina. Yn ogystal, mae gan Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Rheoli ac Economeg Prifysgol Xiamen gytundeb ffurfiol sy'n goruchwylio myfyrwyr PhD ar y cyd. Maent hefyd wedi cyd-drefnu dau symposiwm a gynhaliwyd yn Xiamen yn 2015 a Chaerdydd yn 2016.

Mae manteision y cytundeb newydd yn cynnwys datblygu hyfforddiant ar y cyd ar gyfer ymchwilwyr drwy gyd-oruchwylio myfyrwyr doethurol, yn ogystal â chronfa ar y cyd i roi £1.2m o arian sbarduno ar gyfer y prosiectau ymchwil cydweithredol sy'n gallu denu arian allanol a chreu cysylltiadau masnach newydd i Gymru.

"Mae partneriaethau, myfyrwyr a staff rhyngwladol yn helpu prifysgolion y DU i gefnogi economïau rhanbarthol, darparu sgiliau graddedig lefel uchel, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd nifer o gyrsiau ar lefel ranbarthol. Mae ein nifer cynyddol o fyfyrwyr Tsieineaidd hefyd yn cynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol o'r radd flaenaf sy'n astudio yn ein Prifysgol. Maent yn datblygu sgiliau a allai fod o fudd i’r DU yn y pen draw, boed hynny'n uniongyrchol drwy brosiectau ymchwil ar y cyd neu drwy ddod â busnes yn ôl i’r wlad yn nes ymlaen yn eu gyrfaoedd."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Mae gan y Brifysgol berthynas hirsefydlog â Tsieina, gyda 49 o gysylltiadau academaidd ffurfiol rhyngddynt yn ogystal â chytundebau partneriaeth strategol gyda phrifysgolion ar draws y wlad ar gyfer ymchwil ar y cyd a chyfnewid myfyrwyr.

I ddathlu'r bartneriaeth newydd gyda Phrifysgol Xiamen, perfformiodd côr Siambr Prifysgol Caerdydd a Grŵp y Celfyddydau Prifysgol Xiamen gyngerdd yn Theatr Reardon Smith, Caerdydd, ar 17 Tachwedd 2016.  Yn y digwyddiad 'Cipolwg ar Tsieina' cyflwynodd grŵp Celfyddydau Prifysgol Xiamen ddawns draddodiadol o Tsieina, gan gynnwys dawns, canu a cherddoriaeth offerynnol filwrol. Agorodd Côr Siambr Prifysgol Caerdydd y gyngerdd gyda chaneuon a gyfansoddwyd gan Hubert Parry.

Rhannu’r stori hon

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni a fyddech yn hoffi bod yn bartner, ebostiwch ni gyda manylion o’ch cynnig.