Ewch i’r prif gynnwys

Rhag Is-ganghellor, Ymchwil, Arloesedd a Menter

A photograph of Rpger Whitaker
Rhag Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesedd a Menter, Roger Whitaker

Yr Athro Roger Whitaker yw’r Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter.

Y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros arwain portffolio ymchwil ac arloesi’r Brifysgol, sy'n cynnwys contractau cyfredol gwerth mwy na £0.6 biliwn.

Ac yntau’n Rhag Is-Ganghellor, mae’r Athro Baxter hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Cyfrifoldebau

Yn y rôl hon mae’r Athro Whitaker yn gyfrifol am:

  • datblygu nerth ac amrywiaeth gweithgareddau ymchwil ac arloesi Prifysgol Caerdydd;
  • gwneud yn siŵr bod gweledigaeth fyd-eang o ran ein hymchwil, a hynny drwy gymryd rhan mewn ffordd gadarnhaol â chyllidwyr a rhwydweithiau ymchwil ryngwladol
  • meithrin perthnasoedd effeithiol â chyllidwyr cenedlaethol (UKRI) a rhyngwladol, yn ogystal â byd busnes, y llywodraeth a phartneriaid eraill y Brifysgol;
  • gwella’r ffordd y mae ymchwil Caerdydd yn cael ei gwireddu a’i masnacheiddio, ynghyd â’i heffaith economaidd ehangach;
  • meithrin diwylliant cadarnhaol ar gyfer ymchwil ac arloesi er lles pob un o aelodau ein cymuned ymchwil amrywiol, a hynny ym mhob cam ar hyd eu gyrfaoedd academaidd.

Cyn hyn yr Athro Whitaker oedd Deon Ymchwil ac Arloesedd yn y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (2012-2021) gan fod yn gyfrifol am gyflwyno REF2014 a REF2021. Mae ganddo hanes o arweinyddiaeth ymchwil ac arloesi, gan gynnwys bod yn Bennaeth Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd rhwng 2009 a 2013, a Chyfarwyddwr Uwchgyfrifiadura Cymru, sef buddsoddiad o £19M a gefnogwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ym maes gallu cyfarpar cyfrifiadurol perfformiad uchel ledled Cymru.

Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Whitaker yn ymwneud â’r man cyfarfod rhwng deallusrwydd dynol a pheirianyddol. Mae wedi arwain nifer o brosiectau ymchwil rhyngwladol mawr gyda phartneriaid yn Ewrop a’r Unol Daleithiau gan gynnwys cryn nifer o gysylltiadau eang â byd diwydiant. Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar o ran ymchwil y mae effaith ffenomenau seicolegol ar rwydweithiau a grwpiau cymdeithasol, gan gynnal arbrofion wrth i bobl ddefnyddio ffonau clyfar, yn ogystal â thechnegau cyfrifiannol newydd megis cyfrifiadura sy’n seiliedig ar asiantau. Mae ei waith wedi cael sylw mewn mwy na 70 o gyfryngau ledled y byd. Mae gwaith presennol yr Athro Whitaker yn ystyried dulliau newydd o ddefnyddio peiriannau at ddibenion arloesi. Mae'r cyfeiriadau hyn yn ychwanegu at ei ddiddordebau hirsefydlog ym maes rhwydweithiau cymdeithasol, gwybyddiaeth a dulliau esblygiadol o ddatrys problemau ym myd peirianneg. Darllenwch ragor am ymchwil yr Athro Whitaker.

Manylion cyswllt

Cynorthwy-ydd Personol

Izzy Macfarlane