Ewch i’r prif gynnwys

Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

A profile photograph of Stephen Riley
Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Yr Athro Stephen Riley

Yr Athro Steve Riley yw Rhag Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.

Mae’r Athro Riley yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o bennu strategaeth a chyfeiriad y Coleg a hyrwyddo datblygiad dysgu ac addysgu, rhagoriaeth ym maes ymchwil ac arloesedd. Yn Rhag Is-Ganghellor, mae’r Athro Riley hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Mae’r Athro Riley yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a hefyd yn un o Gymrodyr Anrhydeddus Academi’r Addysgwyr Meddygol. Dilynodd raglen arweinyddiaeth Sefydliad Harvard Macey yn Boston. Yn ddiweddar, ef oedd y Deon Meddygaeth a Phennaeth yr Ysgol Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ymhlith diddordebau academaidd yr Athro Riley mae cynllunio’r cwricwlwm, arweinyddiaeth addysgol a defnyddio theori systemau wrth addysgu. Mae’n teimlo’n angerddol am wneud y sector addysg uwch yn atebol yn gymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r Athro Riley yn parhau i hyrwyddo’r agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol i bob Ysgol yn y Coleg, yn rhan o gamau gweithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae’n credu’n gryf yn yr holl broffesiynau iechyd a’r dysgu ar y cyd sy’n digwydd drwy gyfrwng addysg ryngbroffesiynol.

Ac yntau’n Athro Addysg Feddygol, roedd yn rhan o'r tîm a oedd wedi cynllunio, datblygu a gweithredu cwricwlwm rhaglen feddygol C21 yn llwyddiannus, gan arwain ar y ddwy flynedd gyntaf a'r flwyddyn “gysoni” derfynol. Helpodd hefyd i gyflwyno Clerciaeth Integredig Hydredol gyntaf Cymru ar sail damcaniaeth parhad addysg. Yn fwy diweddar, chwaraeodd yr Athro Riley ran flaenllaw yn y gwaith o gefnogi sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’r Athro Riley wedi ymrwymo o hyd i arwain coleg lle mae ymchwilwyr rhagorol newydd a phrofiadol fel ei gilydd yn cael eu recriwtio a’u datblygu, a hynny drwy gyfrwng raglenni cymorth cymrodoriaethau, rhaglenni mentora a chyfleoedd i symud eu gyrfaoedd yn eu blaenau. Mae’r ymrwymiad parhaus hwn yn galluogi Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd i wneud ymchwil o ansawdd uchel sy’n cael effaith er budd cleifion a chymdeithas.

Academydd Clinigol ym maes Arenneg yw’r Athro Riley sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae hefyd yn un o Gymrodyr Coleg Brenhinol y Meddygon (Llundain).