Llywodraethu
Y Cyngor a'r Senedd sy'n goruchwylio llywodraethu'r Brifysgol. Mae'r fframwaith cyfansoddiadol y mae'r Brifysgol yn gweithredu ynddo yn seiliedig ar y Siarter, y Statudau a'r Ordiniannau.
Mae'r trefniadau llywodraethu a gynhwysir o fewn y fframwaith hwn yn canolbwyntio ar dair prif gorff; y Cyngor, y Senedd a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (corff ymgynghorol i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor).
Statws elusennol
Mae'r Brifysgol yn elusen gofrestredig ac mae'r cyngor yn gweithredu fel Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar gyfer yr elusen. Mae pob aelod Cyngor felly yn ymddiriedolwr yr elusen.
Cytundeb Perthynas Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cynnwys y cytundeb hwn, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Llywodraethu Prifysgol Caerdydd drwy ebostio governance@caerdydd.ac.uk.

Cytundeb Cydberthynas ag Undeb y Myfyrwyr
Polisi'r Cytundeb Perthynas sy'n amlinellu'r cytundeb rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr ar gyfer 2019/20.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.