Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr

Laura Davies yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr.

Fel arweinydd yr adran Cyfathrebu a Marchnata, mae Laura yn gyfrifol am gyfathrebu, marchnata, materion cyhoeddus, cenhadaeth ddinesig, digwyddiadau, recriwtio myfyrwyr, ehangu cyfranogiad, derbyniadau a gweithgarwch rhyngwladol y Brifysgol.

Cyn dod yn Gyfarwyddwr, roedd Laura’n Gyfarwyddwr Recriwtio Myfyrwyr ac Allgymorth yng Nghaerdydd, a chyn hynny roedd ganddi rolau yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn yr Ysgol Busnes. Rôl gyntaf Laura yn y Brifysgol oedd fel ei Swyddog Ehangu Mynediad cyntaf, yn gweithio o fewn is-adran Gyfathrebu a oedd yn llawer llai ar y pryd.

Mae'n un o Gyfarwyddwyr FOR Cardiff, Ardal Gwella Busnes y ddinas, ac mae'n cadeirio ei ffrwd waith marchnata lleoedd.

Graddiodd Laura o Goleg St Anne, Rhydychen yn 2003 ac mae ganddi ddiplomâu o’r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Sefydliad Siartredig Marchnata. Mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl.