Ewch i’r prif gynnwys

Prif Swyddog Ariannol

Headshot of Darren Xiberras
Prif Swyddog Ariannol, Darren Xiberras.

Ac yntau’n Brif Swyddog Ariannol, mae Darren Xiberras yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol. Mae'n goruchwylio pob agwedd ar gyllid a pherfformiad ariannol y Brifysgol.

Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd Darren oedd Prif Swyddog Cyllid Prifysgol De Cymru ar ôl ymuno â nhw yn 2019.   Yn union cyn hynny, roedd ganddo'r un swydd yn yr elusen addysg Teach First lle bu hefyd yn goruchwylio Adnoddau Dynol (AD), eiddo a TG.

Cyn Teach First, Darren oedd Cyfarwyddwr Cyllid adran sector cyhoeddus ENGIE UK (GDF Suez gynt) sydd â throsiant o £350m ac yn darparu gwasanaethau eiddo i nifer helaeth o gleientiaid sy’n gwmnïau o’r radd flaenaf yn y sector cyhoeddus ledled y DU.

Mae Darren hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol elusen genedlaethol yn y DU ac mae ganddo rôl Cyfarwyddwr Cyllid Grŵp ar gyfer cwmni cyfyngedig cyhoeddus ar restr y Farchnad Buddsoddi Amgen (AIM) sy'n darparu gwasanaethau i'r sector cyhoeddus. Hyfforddodd yn gyfrifydd gyda South Wales Electricity PLC.

Ar hyn o bryd Darren yw cadeirydd Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Addysg Uwch Cymru (WHEFDG), ac mae'n aelod o Bwyllgor Gweithredol Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Mae Darren yn un o Ymddiriedolwyr y Difference Education Limited sy'n gweithio i leihau allgáu o addysg prif ffrwd. Mae hefyd yn aelod cyfetholedig o bwyllgor archwilio a risg y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol.

Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Economeg ym 1993.

Manylion cyswllt

Cynorthwy-ydd Personol

Isabel Taylor

Personal Assistant