Ewch i’r prif gynnwys

Prif Swyddog Trawsnewid

Prif Swyddog Trawsnewid, David Langley

David Langley yw ein Prif Swyddog Trawsnewid.

Yn rhan o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, mae'r swydd 2-flynedd hon wedi’i chreu i gynnig gweledigaeth ac arweinyddiaeth strategol ar gyfer newid sefydliadol ar draws y Brifysgol.

Dechreuodd Dr David Langley yn ei swydd fel Prif Swyddog Trawsnewid ar 29 Ebrill 2024.

Cyn hynny roedd yn Brif Swyddog Gweithredu yng Ngholeg Osteopathi’r Brifysgol, Llundain. Cyn hyn, roedd yn rhan o'r tîm gweithredol sylfaenol a greodd New Model Institute of Technology and Engineering (NMITE), y sefydliad AU tarfol arloesol yn Henffordd, lle roedd yn arwain ymgysylltiad allanol. Mae Dr Langley hefyd wedi cyflawni swyddi uwch ym Mhrifysgol Bryste (fel Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Menter), Llywodraeth Cymru (fel Dirprwy Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru), Ysgol Busnes Caerdydd (fel Athro Ymarfer Rheoli Ymchwil), Coleg Imperial Llundain (fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil), ac mae wedi gweithio i'r Cyngor Ymchwil Feddygol, y GIG ac yn y sector preifat. Mae ganddo PhD mewn niwroffarmacoleg, ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Mae hefyd wedi bod yn ymgynghorydd ac mae wedi gweithio gydag Advance HE ar lywodraethu ac arweinyddiaeth.

Cyfrifoldebau

Fel Prif Swyddog Trawsnewid y Brifysgol, mae gan Dr Langley gyfrifoldeb am:

  • gyflawni gweledigaeth ac arweinyddiaeth strategol ar gyfer newid sefydliadol ar draws y Brifysgol gyfan
  • sefydlu'r egwyddorion, y safonau a'r fframweithiau i greu a gweithredu newid trawsnewidiol sylfaenol sy'n cael effeithiau hirdymor i'r sefydliad
  • y swyddfa rheoli portffolio a'r adran cynllunio strategol i sicrhau aliniad a chyflawniad y strategaeth drawsnewidiol
  • ymgorffori newid yn strwythurau a model gweithredu'r Brifysgol, er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus