Ewch i’r prif gynnwys

Amgylchedd a Datblygiad (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y radd hon – sef MSc mewn Amgylchedd a Datblygu – yw ymchwilio, cwestiynu ac archwilio dewisiadau amgen i'r tensiynau a'r cyd-ddibyniaethau sy’n bodoli rhwng datblygiad a systemau ecolegol-gymdeithasol.

structure

Agenda presennol

Cyfle i ystyried y rhyng-gysylltiadau gwleidyddol rhwng gofynion economaidd-gymdeithasol a diraddio amgylcheddol.

tick

Ehangder a dyfnder

Gallwch ymdrin ag ystod gyfan materion yr amgylchedd a datblygu, neu ganolbwyntio ar feysydd dethol (fel sectorau economaidd, adnoddau naturiol, gwasanaethau cyhoeddus).

people

Dan arweiniad arbenigwyr

Byddwch yn dysgu gan, ac yn ymgysylltu â, staff sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n gweithio ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth.

academic-school

Archwilio aml-raddfa

Cyfle i archwilio profiad byw o ddatblygiad a newid ecolegol-gymdeithasol ar draws gwahanol lefelau a chyfnodau amser.

Mae heriau amgylcheddol a phryderon datblygu yn uchel ar yr agenda polisi rhyngwladol. Mae ein rhaglen MSc yr Amgylchedd a Datblygu yn eich annog i ystyried y cydgysylltiadau gwleidyddol rhwng gofynion economaidd-gymdeithasol (chwilio am dwf) a dirywio amgylcheddol, yn ogystal â'r tensiynau rhwng rhagolygon y wladwriaeth a chymdeithas.

Rydyn ni’n ymdrin ag ystod eang o heriau amgylcheddol a datblygu, ond gallwch hefyd ddewis canolbwyntio ar rai meysydd sylweddol penodol (fel sectorau economaidd, adnoddau naturiol, gwasanaethau cyhoeddus, materion llywodraethu, rheoli amgylcheddol neu ranbarthau trefol a gwledig). Byddwch yn datblygu eich sgiliau meddwl yn feirniadol a'ch gallu i archwilio cyfiawnhad, tueddiadau a chyfyngiadau ymatebion confensiynol i densiynau sy'n bodoli a heriau cynyddol.

Byddwch yn ystyried y profiad go iawn o ddatblygu a newid ecolegol-gymdeithasol ar wahanol lefelau - lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang - ac ar draws cyfnodau amser gwahanol. Byddwch yn astudio gwaddolion y gorffennol a dylanwadau cymdeithasol-ddiwylliannol, dyraniad adnoddau, a’r heriau i gyfyngu ar ddirywio amgylcheddol a meithrin cyfiawnder amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar wledydd y gogledd yn fyd-eang a gwledydd y de yn fyd-eang.

Mae'r rhaglen yn caniatáu i chi wneud y canlynol: deall y rolau ideolegol sy'n dylanwadu ar bolisïau datblygu a methiannau rheoli amgylcheddol; adolygu tueddiadau i drosi natur yn adnoddau ac eiddo preifat; llunio a gweithredu rheoleiddiad amgylcheddol; ymrwymiadau a methiannau cyfarpar y wladwriaeth; y rhyngweithio rhwng sectorau, grwpiau a chymunedau economaidd-gymdeithasol; sail gymdeithasol a diwylliannol datblygu a newid amgylcheddol; a’r ymatebion gwleidyddol, y gwaith o ysgogi ar lawr gwlad a chynghreiriau ar draws gwahanol raddfeydd daearyddol, gwledydd a lleoliadau.

Hefyd, ystyrir pam a sut mae'r apêl i ddatblygu yn parhau i ddylanwadu ar lywodraethau, grwpiau cymdeithasol a chysylltiadau rhyngwladol gan greu enillion tymor byr, anghyson ac effeithiau hirdymor. Bydd cyfyngiadau polisïau a ddylanwadir gan agendâu amgylcheddaeth a chynaliadwyedd cul, sy'n methu'n gyffredin â mynd i'r afael â disgwyliadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach, yn elfen allweddol o'r drafodaeth hon.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis dylunio, economeg, peirianneg amgylcheddol, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth, neu gymdeithaseg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Byddwch yn astudio modiwlau a addysgir gwerth 120 credyd dros ddau semester rhwng mis Hydref a mis Mai, gan gymryd 60 credyd bob semester. Byddwch yn cwblhau traethawd hir gwerth 60 credyd rhwng mis Mehefin a mis Medi. Mae dosbarthiad eich gradd yn seiliedig ar ddau draean o radd gyfartalog y modiwlau a addysgir a thraean o radd eich traethawd hir.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn cymryd chwe modiwl a addysgir, gwerth 20 credyd yr un. Bydd pedwar o'r modiwlau hyn yn fodiwlau craidd. Bydd y ddau fodiwl arall yn fodiwlau dewisol o ddewis o ddeg.

Byddwch yn cwblhau traethawd hir yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol. Byddwch yn gallu arbenigo mewn gwahanol feysydd drwy ddewis cyfuniadau penodol o fodiwlau dewisol a thrwy eich pwnc traethawd hir, os dymunwch. Cewch eich cynghori ar ddechrau'r rhaglen ar y gwahanol feysydd arbenigol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gwaith stiwdio a labordy cyfrifiaduron lle bo hynny'n berthnasol.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf. Ond, yn gyffredinol maen nhw’n darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol yn ogystal â gwybodaeth gyfredol.

Mewn seminarau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar.

Mewn gwaith stiwdio a labordy cyfrifiaduron, cewch gyfle i ddysgu gwahanol ddulliau ymchwil fel GIS ac ystadegau, yn dibynnu ar y modiwlau rydych yn eu hastudio.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bach, dadleuon, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cynnal amrywiaeth o asesiadau yn ystod y rhaglen, yn dibynnu ar y modiwlau y byddwch yn eu dewis.

Asesir pob modiwl 20 credyd ar sail traethawd 4000 gair neu gyfwerth. Mae gan y rhan fwyaf o fodiwlau o leiaf ddau ddull asesu gwahanol gyda phob un wedi’i bwysoli pro rata yn gyfwerth â thraethawd 4000 gair yn gyffredinol. Er enghraifft, traethawd 3000 gair gwerth 75% a chyflwyniad 15 munud gwerth 25%.

Mae'r gwahanol ddulliau asesu yn cynnwys traethodau ysgrifenedig (gan gynnwys traethodau byr a thraethodau adolygu beirniadol), cyflwyniadau (unigol ac mewn grwpiau), gwaith grŵp, ysgrifennu adroddiadau, cyflwyniadau poster, dyddiaduron myfyriol, adroddiadau ymgynghori, adroddiadau ar ddadansoddiadau ystadegol a thraethawd hir unigol. Mae'r traethawd hir, hyd at 20,000 o eiriau, yn werth 60 credyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydyn ni am sicrhau eich bod yn gallu cyflawni eich dyheadau academaidd a phroffesiynol. Felly, rydyn ni’n ymfalchïo mewn cynnig amgylchedd dysgu ac addysgu cefnogol a cholegol.

Yn benodol, cewch diwtor personol, a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Eich tiwtor personol fydd y pwynt cyswllt cyntaf i chi hefyd os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau.

Mae amrywiaeth o staff eraill ar gael i roi cymorth pellach, gan gynnwys Cyfarwyddwr y Cwrs, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig, Gweinyddwr Ôl-raddedig, cymorth TG arbenigol a llyfrgellwyr pwnc. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.

Mae pob Modiwl yn y Rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, yn helaeth. Yma, gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, gan gynnwys dolenni ar gyfer deunyddiau addysgu a deunyddiau cysylltiedig, rhestrau darllen a phodlediadau. Yma hefyd y byddwch chi’n cyflwyno ac yn cael mynediad at waith a asesir.

Mae rhaglen o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd hefyd yn cael ei chyflwyno yn yr Ysgol, a fydd yn helpu i ddangos yr ystod o ddewisiadau proffesiynol sydd ar gael i chi ar ôl graddio ac a fydd yn eich galluogi i ddechrau adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol.

Adborth Ffurfiannol

Nod adborth ffurfiannol, nad yw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd, yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Mae adborth ffurfiannol wedi'i ymgorffori ym mhob modiwl a chaiff ei ddarparu'n barhaus drwy gydol y flwyddyn. Mae'r math hwn o adborth yn helpu o ran:

  • gwella eich dealltwriaeth o’r deunydd a addysgir;
  • canfod eich cryfderau a’ch gwendidau a thargedu meysydd y mae angen gweithio arnyn nhw.
  • staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd, gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Gall adborth ffurfiannol gynnwys adborth llafar ar gyflwyno syniadau neu ymchwil a fydd yn cael ei asesu mewn darn o waith ysgrifenedig; adborth llafar yn ystod gwaith labordy cyfrifiaduron ac mewn seminarau a thrafodaeth grŵp; adborth ysgrifenedig ar gynlluniau traethodau; adborth llafar ar bwyntiau a godwyd yn ystod darlithoedd; adborth ysgrifenedig ar ymarferion gweithdai; adborth ysgrifenedig a llafar ar benodau drafft eich traethawd hir / ymchwil

Adborth Crynodol

Adborth crynodol yw adborth sy'n cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw nodi pa mor dda rydych chi wedi llwyddo i fodloni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl neu Raglen a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn gwella. Mae’r holl adborth wedi’i gysylltu'n uniongyrchol â meini prawf graddio / asesu'r modiwl, ac fel arfer mae'n electronig ac ar gael ar-lein.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • dealltwriaeth feirniadol o ddadleuon damcaniaethol, deongliadau ideolegol a chymhwyso modelau datblygu, gan ystyried deinameg allweddol mewn newid amgylcheddol, polisïau cyhoeddus a rheoleiddio ac archwilio dewisiadau amgen a chyfleoedd.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • dealltwriaeth annibynnol a beirniadol o'r rhyngweithio amryfal rhwng yr amgylchedd a datblygu o safbwynt damcaniaethol, methodolegol ac ymarferol;
  • sgiliau uwch mewn ymchwil a dadansoddi annibynnol (gan gynnwys llunio a chyflawni agenda ymchwil hanfodol);
  • gwybodaeth lefel uwch am ddulliau meintiol ac ansoddol a rheoli a dadansoddi data cysylltiedig;
  • eich bod yn gwerthfawrogi’n feirniadol ac yn dehongli dadleuon damcaniaethol a data empirig.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • gallu dadansoddi problemau'r rhyngwyneb rhwng datblygu a newid amgylcheddol a dechrau canfod ymatebion posibl a dewisiadau eraill o fewn fframweithiau polisi a rheoleiddio

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • y gallu i drefnu, dadansoddi a chyflwyno syniadau a thystiolaeth gymhleth yn feirniadol ar lafar ac yn ysgrifenedig;
  • y gallu i weithio’n annibynnol;
  • y gallu i gydweithio mewn grwpiau ac i gynllunio a chynnal ymchwil empirig

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae’n bosibl y bydd ymweliad astudiaethau maes ynghlwm â rhai modiwlau dewisol, y gallai fod yn rhaid i fyfyrwyr wneud cyfraniad ariannol tuag ato. Os felly, bydd myfyrwyr yn talu cyfraniad tuag at yr ymweliad astudiaethau maes. Mae hyn fel arfer yn draean o gost y daith. Yn y gorffennol, mae hyn wedi bod tua £500-700 yn dibynnu ar leoliad y daith. Bydd myfyrwyr yn cael gwybod cost y daith ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, i'w helpu i benderfynu ar ddewis modiwlau.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn gallu gweithio mewn ystod eang o yrfaoedd datblygu a rheoli amgylcheddol, gan gynnwys swyddi mewn sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r Trydydd Sector. Gall hyn gynnwys llunio polisïau (er enghraifft, ar adnoddau naturiol, ynni, trafnidiaeth, cynllunio trefol a gwledig, bwyd-amaeth neu gadwraeth amgylcheddol), ymgynghoriaeth ar ddatblygu lleol a rhyngwladol, neu reoleiddio amgylcheddol, rheoli prosiectau.

Byddwch hefyd mewn sefyllfa dda i astudio ymhellach tuag at yrfa academaidd mewn datblygu ac astudiaethau amgylcheddol.

Lleoliadau

Yn ystod y rhaglen, cewch gyfle i seilio eich ymchwil traethawd hir ar weithgareddau yn y gweithle - er enghraifft, gellid ei ddatblygu mewn sefydliadau ymgynghori, awdurdodau cyhoeddus neu asiantaethau datblygu rhyngwladol.

Mae hon yn elfen ddewisol a byddai gofyn i chi chwilio am y lleoliad eich hun (yn aml, interniaeth rydych wedi'i threfnu).

Bydd lleoliadau’n cael eu hysbysebu weithiau drwy'r Ysgol a byddai modd gwneud cais ar gyfer y rhain ar sail gystadleuol. Ni chaiff y lleoliad ei hun ei asesu. Ond, gellir cysylltu gwaith sy'n deillio o'r lleoliad â gwaith cwrs (e.e. y traethawd hir).

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Daearyddiaeth a chynllunio, Gwyddor amgylcheddol


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.