Ewch i’r prif gynnwys

Hanes

Ewch ar draws y byd drwy ddilyn rhaglen sy'n trin a thrafod ystod ryfeddol o gymdeithasau, cyfnodau a lleoedd o hanes yr oesoedd canol hyd at hanes cyfoes.

Gyda’n gilydd, rydym yn ymchwilio i ymddangosiad gwladwriaethau newydd, effaith cyfnodau allweddol mewn hanes a chwyldroadau gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol ysgubol.

Rydym yn ymchwilio i fywydau pobl gyffredin yn ogystal â phobl bwerus, a hynny’n rhan o fodiwlau a luniwyd i rannu’r ddealltwriaeth ddiweddaraf a’n hymchwil ein hunain sy’n esblygu. Rydym yn trin a thrafod sut aeth pobl yn y gorffennol ati i wneud synnwyr o'u bydoedd, rhyngweithio â'i gilydd a helpu i lywio'r byd heddiw.

Mae ein rhaglenni’n  ymestyn ar draws y byd gyda chymorth arbenigwyr o fri, boed yn hanes cyfoethog Prydain a Chymru neu Ganol a Dwyrain Ewrop a Rwsia, neu yn hanes Affrica, Asia a Gogledd America.

Byddwch yn defnyddio’r dulliau diweddaraf ac yn cyfeirio at amrywiaeth helaeth o ffynonellau i astudio’r gorffennol, gan eich galluogi i lywio eich diddordeb angerddol mewn hanes. Gyda llygad beirniadol, byddwch yn creu eich dehongliadau gwreiddiol eich hun ac yn nodi cysylltiadau â dadleuon cyfoes.

Archwilio'r Gorffennol

Dyma un o gyfres o lwybrau dilyniant hyblyg, fforddiadwy at raddau ym maes Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd i fyd addysg. Gweld rhagor am: Llwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd.