Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

SHARE with Schools video

Mae ein graddedigion yn dechrau ar yrfaoedd mewn ystod drawiadol o sectorau. O'r sector cyhoeddus i'r sector preifat, mae gyrfaoedd yn cael eu creu mewn amrywiaeth o broffesiynau, o fancio a'r gyfraith i addysgu a gweithio yn y cyfryngau.

Mae llawer yn dilyn llwybrau sydd wedi’u cysylltu’n fwy traddodiadol â’n disgyblaethau galwedigaethol gan gynnwys y sector treftadaeth, sefydliadau ffydd a chyrff anllywodraethol.

  • Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
  • Roedd 98% o'n hôl-raddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd neu’n gwneud gweithgareddau eraill, fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).

Cymorth gyrfaol pwrpasol

Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i'n myfyrwyr ar bob cam o'u hastudiaethau israddedig ac ôl-raddedig.

Gan wella rhaglen Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd canolog y Brifysgol, rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad arbenigol ychwanegol drwy ein gweithiwr proffesiynol ymroddedig yn yr Ysgol.

Mae ein cynghorydd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau gyrfaoedd wedi'u teilwra drwy gydol y flwyddyn a gallwn eich helpu chi i gwrdd â'ch uchelgais gyrfa drwy amrywiaeth o weithgareddau â ffocws penodol.

Mae sesiynau un-i-un hefyd ar gael drwy apwyntiad.

Ar gael o fewn yr Ysgol

Mae'r ysgol yn cynnig cefnogaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd, gan gynnwys:

  • lolfa gyrfaoedd galw heibio (sesiynau cynghori)
  • dosbarth meistr rhwydweithio cymdeithasol
  • dosbarth meistr CV
  • digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol (meysydd sector cysylltiedig megis treftadaeth)
  • siaradwyr gwadd proffesiynol o ystod eang o sectorau (e.e. addysgu, treftadaeth, elusennau)
  • lleoliadau profiad gwaith a chyngor (ee amgueddfeydd, archifau, sector treftadaeth)
  • gweithgareddau menter
  • gwybodaeth gyfredol am y farchnad lafur.

Cyfres fideo

Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu cyfres o fideos i helpu ein myfyrwyr i ddisgleirio wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd dewisol. Mae'r gyfres yn cynnwys awgrymiadau gwych gan yr ymgynghorydd gyrfaoedd blaenllaw Aimee Bateman.

"Mae cyflogadwyedd yn rhywbeth y mae angen i chi weithio arno ac ymarfer. Mae Careercake wedi paratoi'r fideos hyn i'ch helpu i wneud eich sgiliau yn fwy amlwg a deall beth mae eisiau ar gyflogwyr heddiw gennych chi."

Aimee Bateman Aelod Sefydlu a Phrif Swyddog Gweithredol, Careercake

Nod ein modiwl cyflogadwyedd yw meithrin sgiliau cyflogadwyedd y gallwch eu defnyddio mewn ystod o yrfaoedd proffesiynol a graddedig yn nhirwedd newidiol y 21ain ganrif.

Mae'r modiwl israddedig dewisol hwn ym Mlwyddyn Dau, a gefnogir gan wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, yn cyflwyno hanfodion datblygu gyrfa ac yn cynnwys lleoliad gwaith (o leiaf 35 awr).

Mae gan fyfyrwyr hyblygrwydd i drefnu lleoliad sy'n cyd-fynd â'u diddordebau a'u dyheadau orau, yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr Ysgol.

Lleoliadau a phrofiad ymarferol

Mae ein holl raglenni israddedig ym maes Archaeoleg a Chadwraeth yn cynnwys wyth wythnos o brofiad ymarferol yn y DU neu dramor.

Mae lleoliadau mewn amgueddfeydd a'r sector treftadaeth neu ar gloddfeydd yn elfen graidd o'n graddau, ac yn digwydd mewn lleoliadau cymeradwy dros ddau gyfnod o bedair wythnos gan ddefnyddio ein cysylltiadau helaeth ym maes archaeoleg a chadwraeth.


Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig, Arolwg Hynt Graddedigion 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.

Yn cynnwys data HESA: Hawlfraintyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am gasgliadau neu benderfyniadau gan drydydd partïon yn sgîl data’r Asiantaeth.