Daw’r adroddiad, Cyrraedd y Nod 2.0, gan Rwydwaith Compact Byd-eang y Cenhedloedd Unedig y DU, rhwydwaith o dros 850 o sefydliadau sy’n ymroddedig i sbarduno twf cynaliadwy drwy arferion busnes cyfrifol gan gynnwys y Nodau Datblygu Cynaliadwy.
Yn ddiweddar, bu’r Sefydliad Ymchwil Dŵr yn cynnal cyfweliadau ag amrywiaeth o arbenigwyr er mwyn deall yn well anghenion dŵr croyw yn awr ac yn y dyfodol, a rôl rhanddeiliaid wrth ymdrin â’r anghenion hynny.