Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn taflu dŵr oer dros honiadau bod afonydd Prydain 'y glanaf erioed ers y Chwyldro Diwydiannol'

11 Gorffennaf 2022

Mae afonydd fel Afon Taf yn cael eu heffeithio llai gan lygredd carthffosiaeth - ond mae CSOs, fferyllol a microblastigau yn dal i fod yn bryder

Mae gwyddonwyr wedi taflu dŵr oer dros honiadau diweddar fod safon dŵr afonydd yng Nghymru a Lloegr “yn well nag ar unrhyw adeg ers diwedd y Chwyldro Diwydiannol”.

Er bod gwelliannau wedi’u gwneud o ran gostwng lefelau rhai llygryddion yn ystod y tri degawd diwethaf, mae astudiaeth newydd yn dangos darlun cymysg, ac nid yw’n cefnogi’r honiadau hyn yn llawn.

Yng Nghymru, mae’r adolygiad yn awgrymu bod rhywfaint o adfer wedi bod yn dilyn effeithiau glaw asid yn y gorffennol a llygredd carthffosiaeth. Roedd hyn wedi arwain at ddosbarthu 70% o afonydd Cymoedd y De yn afonydd “wedi’u llygru’n ddifrifol” yn yr 1970au.

Fodd bynnag, mae’r problemau sy’n dod i’r amlwg ac a nodwyd yn y papur ynghylch safon y dŵr, megis Gorlifoedd Carthffosiaeth Cyfunol (CSO), halogion sy’n dod i’r amlwg megis microblastigau a deunyddiau fferyllol, ac effeithiau amaethu dwysach, yn “bryder” o ran afonydd Cymru.

Mae'r adolygiad cynhwysfawr o’r datganiad ynghylch y Chwyldro Diwydiannol – datganiad a wnaed gan weinidogion ac uwch swyddogion y llywodraeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science of the Total Environment.

Ysgrifennwyd yr adolygiad gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, a phrifysgolion Caerlŷr, Bryste, Efrog a Stirling, yn ogystal â Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) yn y DU, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, Ymddiriedolaeth yr Afonydd, yr Ymddiriedolaeth Bysgota, a Sefydliad Ronin UDA.

Dyma a ddywedodd Athro Ecoleg Prifysgol Caerdydd, Steve Ormerod: “Mae’r trosolwg cynhwysfawr hwn o safon y dŵr yn amlygu canfyddiadau sy’n peri pryder i Gymru. Mae’n cadarnhau sut mae rheoleiddio effeithiol wedi helpu i fynd i’r afael â phroblemau hanesyddol o bwys – yn arbennig glaw asid neu’r arllwysfeydd carthion a arweiniodd ar un adeg at 70% o’r afonydd yng Nghymoedd y De yn cael eu nodi’n rhai a oedd wedi cael eu llygru’n ddifrifol.

“Ar yr un pryd, mae’n dangos yr angen am gael gafael llawer tynnach ar faterion megis y gorlifoedd CSO, llygryddion sy’n dod i’r amlwg megis microblastigau a chynnyrch fferyllol, yn ogystal â’r dwysáu o ran amaethyddiaeth. Ymddengys bod y rhain yn diraddio afonydd yng Nghymru sydd o bwys rhyngwladol megis Afon Gwy.”

Ar y cyd â gwybodaeth ynghylch twf poblogaeth yn hanesyddol, gweithgarwch diwydiannol a’r ddarpariaeth ynghylch trin dŵr gwastraff, casglodd y gwyddonwyr ddata ynghylch safon dŵr yng Nghymru a Lloegr rhwng diwedd y 19eg ganrif hyd heddiw, gan edrych ar saith categori gwahanol o lygryddion dŵr – hynny yn wyneb y ffaith nad oes llawer o ddata hanesyddol ar gael yn aml.

Er bod lefelau rhai llygryddion wedi bod ar eu huchaf, yn ôl pob tebyg, ar ryw adeg rhwng y 1960au a chanol y 1990au a’u bod wedi gostwng ers hynny, mae safon dŵr yn “annerbyniol o wael” o hyd mewn sawl ardal ledled y DU, yn ôl yr ymchwilwyr. Daethon nhw o hyd i arwyddion hefyd bod y cynnydd sydd wedi bod yn ddiweddar i fynd i'r afael â llygredd wedi arafu. Mae lefelau nitrad mewn llawer o ddalgylchoedd yn uchel o hyd, ac nid yw’n hysbys beth yw lefelau'r rhan fwyaf o lygryddion organig synthetig.

Galwodd awduron yr astudiaeth am welliannau brys i safon y dŵr mewn llawer o afonydd a nentydd, yn ogystal â gwelliannau i raglenni monitro, gan gynnwys samplu’n amlach, ac yn ehangach yn ddaearyddol, a chynnwys ystod ehangach o lygryddion yn y dadansoddiadau arferol.

Dyma a ddywedodd Mick Whelan, Athro Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerlŷr ac awdur cyfatebol yr adolygiad: “Mae data ynghylch llawer o lygryddion yn dangos bod crynodiadau, yn wir, yn debygol o fod yn is nag yr oeddent yn y 1960au a’r 70au... Fodd bynnag, ychydig iawn a wyddwn ni am effeithiau llawer o halogion gan nad ydyn ni’n chwilio amdanyn nhw fel mater o drefn.”

Anogodd Dave Tickner, Pennaeth Dŵr Croyw yn WWF, gwmnïau dŵr, rheoleiddwyr a’r llywodraeth “i godi ei lleisiau a sicrhau bod y rheolau a luniwyd er mwyn glanhau’r afonydd hyn yn cael eu gweithredu”.

“Mae hynny’n golygu dwyn y rheini sy’n llygru i gyfrif a mynd i’r afael â’r arferion ffermio sydd wedi golygu bod ein dyfroedd yn gorlifo â chemegau niweidiol – mae’n rhaid i hyn fod yn rhan o ymdrech ehangach i gyflymu newidiadau sy’n sicrhau bod ffermio yn gyfeillgar i fyd natur ledled y wlad,” meddai.

Rhannu’r stori hon