Ewch i’r prif gynnwys

Cwrs byr Her Diogelwch Dŵr Byd-eang nawr ar agor

3 Mai 2022

The Challenge of Global Water Security Cardiff University

Mae cwrs ar-lein rhad ac am ddim ar gyfer Her Diogelwch Dŵr Byd-eang bellach ar agor

Wrth i'r angen i ddeall, diogelu a rheoli adnoddau dŵr croyw ddwysau, mae angen persbectif ffres ar ddiogelwch dŵr.

Mae’r Athro Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, yn esbonio pwysigrwydd cynyddol mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu ein hadnoddau dŵr croyw byd-eang:

Prin yw'r heriau sy'n bwysicach i'n niferoedd cynyddol na sicrhau'r cyflenwadau dŵr sy'n ein cadw'n fyw. Rydym ni, a'r cenedlaethau sy'n dod ar ein hôl, yn dibynnu ar ecosystemau naturiol ar gyfer cymaint o agweddau ar gynnal bywyd. Rhaid inni sicrhau ein bod yn peidio â gorddefnyddio neu lygru dyfroedd croyw i’r pwynt ein bod yn diraddio neu’n dinistrio ecosystemau naturiol y Ddaear sydd hefyd yn dibynnu ar ddŵr. Mae’r weithred gydbwyso hon ymhlith materion mwyaf cymhleth a brys yr 21ain ganrif.

Yr Athro Isabelle Durance Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr

Mae Her Diogelwch Dŵr Byd-eang wedi denu dros 3,000 o ddysgwyr ledled y byd ers ei lansiad cychwynnol yn 2019. Mewn fersiwn wedi'i adnewyddu a lansiwyd ar 25 Ebrill 2022, mae arbenigwyr yn dwyn ynghyd amrywiaeth o safbwyntiau ar ddiogelwch dŵr, gan gynnwys agweddau ffisegol, biolegol a chymdeithasol sydd wedi eu cysylltu â diogelwch dŵr ar raddfa leol a byd-eang a'r hyn y gellir ei wneud i sicrhau diogelwch dŵr i bawb.

Yn newydd eleni mae cynnwys a gynhyrchwyd gan ymchwilwyr PhD sydd ar flaen y gad o ran ymchwil mewn biowyddoniaeth dŵr croyw a chynaliadwyedd o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol GW4 NERC FRESH a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Plastigau Cynaliadwy EPSRC. Mewn cydweithrediad ag Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd, datblygodd y cyfranwyr hyn gynnwys wedi’i ddiweddaru yn cynnwys microblastigau, ysgogwyr newid hinsawdd a’u heffaith ar ddiogelwch dŵr, gwersi o COP a symudiadau eraill ar gyfer newid, yn ogystal â golwg agosach ar ecosystemau dŵr croyw ac atebion sy'n seiliedig ar natur

Dros y pedair wythnos, mae'r cwrs byr yn cyflwyno dysgwyr i gymhlethdod yr her hon mewn amgylchedd dysgu cymdeithasol trwy FutureLearn. Trwy amrywiaeth o fideos byr, astudiaethau achos a thrafodaethau rhyngweithiol, bydd dysgwyr yn ystyried sut mae symudiadau llawr gwlad a sefydliadau rhyngwladol  yn mynd i'r afael â diogelwch dŵr; a chydweithrediadau rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisi, a rheolwyr adnoddau mewn byd cynyddol gydgysylltiedig.

Nod y cwrs yw darparu golwg ryngddisgyblaethol o ddiogelwch dŵr wedi'i anelu at weithwyr ymchwil dŵr proffesiynol, myfyrwyr sy'n astudio gwyddoniaeth, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch dŵr byd-eang.

Cofrestrwch heddiw i dyfu eich gwybodaeth eich hun am ddiogelwch dŵr byd-eang.