Ewch i’r prif gynnwys

Arolwg yn awgrymu dirywiad mewn poblogaethau dyfrgwn yng Nghymru

16 Rhagfyr 2021

Mae poblogaethau dyfrgwn wedi gostwng yng Nghymru, yn ôl arolwg dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Fe wnaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer Dyfrgwn, yr arolwg cyntaf mewn mwy na degawd, a daeth i’r amlwg bod llai o arwyddion o'r mamaliaid dirgel.

Gweithiodd Brifysgol Caerdydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i drefnu'r chweched arolwg cenedlaethol gyda chymorth syrfewyr gwirfoddol.

Dywedodd Dr Eleanor Kean, a arweiniodd yr ymchwil ar gyfer Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd: "Yn yr arolwg cyntaf ers 2010, gwnaethom nodi dirywiad yn yr arwyddion o ddyfrgwn.

"Nid oedd y dirywiad ym mhob man, gyda'r rhanbarthau yr effeithiwyd arnynt waethaf yng Nghonwy, Casllwchwr a Theifi. Roedd dirywiad llai amlwg yn y rhan fwyaf o dalgylchoedd eraill, a dim ond ychydig, fel Afon Hafren, oedd â phoblogaethau sefydlog yn ôl pob golwg."

Gan ddefnyddio'r un dulliau ag arolygon blaenorol er mwyn sicrhau bod modd cymharu'r canlyniadau, ymwelwyd â 1,073 o safleoedd i gyd. Gwelwyd arwyddion o ddyfrgwn mewn 756 o safleoedd, gan ddangos dirywiad sylweddol yn eu poblogaethau am y tro cyntaf ers y 1970au, o fod â deiliadaeth oedd tua 90% yn 2010, i 70% yn 2015 i 2018.

Nid yw’r rhesymau dros y dirywiad hwn yn glir ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Brifysgol yn paratoi gwaith pellach i ymchwilio i'r rhesymau tebygol.

Dywedodd Liz Halliwell, arweinydd tîm ecosystemau a rhywogaethau daearol, Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae monitro statws poblogaeth dyfrgwn yn bwysig er mwyn diogelu y mamal poblogaidd hwn. Ar ben hynny, fel prif ysglyfaethwr ein dyfroedd croyw, gall y dyfrgi fod yn ddangosydd biolegol pwysig o iechyd ein hafonydd a'n tiroedd gwlyb.

"Yng Nghymru fel yn y rhan fwyaf o'r DU, mae'r dyfrgi, i raddau helaeth, yn anifail nosol ac anaml y caiff ei weld yn y gwyllt. Fodd bynnag, mae'n bosibl canfod ei bresenoldeb drwy chwilio am ei ddiferion arbennig (baw dyfrgwn), a thrwy chwilio am olion traed.

"Y brif neges sy'n deillio o’r adroddiad hwn yw na allwn laesu dwylo ynglŷn ag adferiad parhaus y dyfrgi yn y DU."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd yma.

Rhannu’r stori hon