Ewch i’r prif gynnwys

Rhagair:  Meithrin y Dychymyg Amgylcheddol

Roedd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn fuddsoddiad cyffrous oedd yn ddatblygu datrysiadau i broblemau byd-eang cynaliadwyedd a'r amgylchedd. Drwy wrthod natur arbenigol a 'seilos' ymchwil academaidd bwriad y Sefydliad oedd herio academyddion i ystyried gweithio mewn cyd-destun yn seiliedig ar fannau.

Dechreuwyd meddwl am y sefydliad ddiwedd y 1990au, pan ddechreuodd ysgolheigion amgylcheddol blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd gydweithio drwy ddatblygu canolfannau ymchwil, rhwydweithiau ac unigolion, yn arbennig canolfan ymchwil yr ESRC ar gyfer Cysylltiadau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas (BRASS) dan gyfarwyddyd yr Athro Ken Peattie. O'r rhwydweithiau cydweithredol hyn oedd yn ehangu'n barhaus datblygodd y syniad am sefydliad ymchwil yn canolbwyntio ar ymchwil cynaliadwyedd ar sail mannau a fyddai'n caniatáu i ymchwilwyr ar draws pob coleg ac ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd weithio ar broblemau cynaliadwyedd rhyngddisgyblaethol. Yn 2010, ariannodd Prifysgol Caerdydd y rhwydwaith hwn fel Sefydliad Ymchwil y Brifysgol.

Daeth y Sefydliad i'r amlwg drwy chwarae rhan flaenllaw yn y trafodaethau rhyngwladol ar gynaliadwyedd, gan fabwysiadu dull gweithredu penodol yn seiliedig ar fannau, a defnyddio hynny fel sail ar gyfer gwreiddio ymchwil ryngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol (fel y tystia'r ddogfen hon). Gan weithio'n agos gyda phartneriaid o'r byd academaidd a chymdeithas sifil, llwyddodd ysgolheigion y Sefydliad i arloesi gyda dulliau newydd a chysyniadau'n seiliedig ar fannau ar draws ystod o feysydd amgylcheddol sylweddol. Os oedd gweithio rhyngddisgyblaethol yn beth newydd yn y dyddiau cynnar, wrth i'r Sefydliad aeddfedu dyma oedd y drefn arferol. Creodd y Sefydliad hefyd 'ôl troed' gwyddor cynaliadwyedd sylweddol, gyda chydweithwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd yn mynd ymlaen i ddal swyddi uwch yn y DU a thramor.

Bydd gwaith a dulliau gweithredu'r Sefydliad yn parhau i greu ynni deallusol a diaspora bywiog, yng Nghaerdydd a thu hwnt, dros y degawdau tyngedfennol nesaf ar gyfer datrys cwestiynau am sut i greu mannau a chymunedau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Yr Athro Emeritws Terry Marsden