Ewch i’r prif gynnwys

Pennod chwech: Llunio polisïau cyhoeddus

Mae ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy wedi cyfrannu at ddatblygu polisi cyhoeddus ar lefel ryngwladol a chenedlaethol.

Rhyngwladol

Mae'r Llwyfan Polisïau Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystem (IPBES) yn gorff rhynglywodraethol annibynnol sy'n cryfhau'r rhyngwyneb rhwng polisïau a gwyddoniaeth ar gyfer bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem at ddibenion cadwraeth a’r defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth, lles dynol hirdymor a datblygiad cynaliadwy. Cyfrannodd ein hymchwilwyr at eu Hasesiad Rhanbarthol, Ewrop ac Asia yn 2019, oedd yn edrych ar gyfleoedd i hyrwyddo diogelwch bwyd, datblygu economaidd a chydraddoldeb tra'n osgoi diraddio tir a dŵr a gwarchod tirweddau diwylliannol, yn ogystal â’u hadroddiad Aasesiad Byd-eang yn 2020, oedd yn ymdrin â newidiadau amgylcheddol byd-eang a dimensiynau polisi a chymdeithasol defnyddio adfer fel offeryn ar gyfer addasu a lliniaru. Mae ein harbenigedd yn cyfrannu at Asesiad Gwerthoedd IPBES, sydd i'w gwblhau yn 2022.  Bydd hwn yn cyflwyno canfyddiadau byd-eang ar sut mae cymunedau amrywiol yn gwerthfawrogi natur mewn gwahanol ffyrdd ac yn rhoi tystiolaeth i helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gydnabod y gwahanol fathau o werthoedd natur ac ymgorffori dulliau gwerth lluosog mewn cyd-destunau penderfynu amrywiol.

Mae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) yn undeb byd-eang o lywodraethau, sefydliadau anllywodraethol, rhanddeiliaid eraill a gwyddonwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r cyngor diweddaraf ar gadwraeth bioamrywiaeth, yn dilyn yr arfer byd-eang gorau. Mae ein hymchwilwyr wedi chwarae rhan bwysig yng Nghomisiwn Goroesi Rhywogaethau'r IUCN, drwy arwain Grŵp Arbenigol Geneteg Cadwraeth (CGSG) ac aelodaeth o grwpiau tacsonau arbenigol. Yn benodol, drwy'r CGSG cyhoeddwyd papurau pwysig yn 2020 a 2021 (gan gynnwys dwy erthygl yn Science sydd wedi'u cyfeirnodi'n fynych) ar gynnwys targedau a dangosyddion genetig ar gyfer y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) ôl-2020 gan ennill cefnogaeth o fewn Fframwaith CBD gyda chynnwys Cerrig Milltir 2030 a Thargedau 2050 ar gyfer rhywogaethau gwyllt.

Yr Undeb Ewropeaidd

Adfer ecolegol: Rydym wedi bod yn rhan o Weithgor Arbenigol EKLIPSE ar Effeithiolrwydd Adfer Ecolegol, a thrwy hyn gyfrannu at yr adolygiad o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE. Helpom ni i dynnu sylw at gymhlethdodau ecolegol a chymdeithasol adfer bioamrywiaeth, gan fanylu ar y rhwystrau a sut y gellir goresgyn y rhain.

Arloesedd cymdeithasol Cyfrannodd ein hymchwil at adolygiad 2017 a gomisiynwyd gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil ac Arloesi’r Comisiwn Ewropeaidd i edrych ar le arloesi cymdeithasol yn y prosiectau ymchwil a datblygu a gyllidir gan yr UE. Buom yn ymchwilio i berthnasedd arloesedd cymdeithasol a’i ymchwil mewn gweithredu ar y cyd, llunio polisïau a thrawsnewid cymdeithasol-wleidyddol yn Ewrop ac yn fyd-eang.

Amrywiaeth genetig: Chwaraeon ni ran allweddol yn y prosiect Gweithredu COST G-Bike (Gwybodaeth am Fioamrywiaeth Genomig ar gyfer Ecosystemau Gwydn) yn canolbwyntio ar weithgareddau ac arfer gorau cyfredol ar gyfer monitro amrywiaeth genetig, ar draws Ewrop ac yn fyd-eang. Rydym ni wedi datblygu cyfres o ganllawiau ac offer allweddol ar gyfer gweithredu rhaglenni monitro genetig cenedlaethol, maes sydd wedi bod yn hynod o ddiffygiol hyd yma mewn ymatebion cenedlaethol i golli bioamrywiaeth.

Cymru

Newid rheoli tir ac adnoddau cynaliadwy yng Nghymru

Cyfrannodd ymchwilwyr o'r Sefydliad at ymchwiliad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod 2014. Dylanwadodd hyn ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn enwedig wrth ddatblygu'r cysyniad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Y cysyniad hwn bellach yw rôl ganolog a statudol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ailgynllunio Polisi Tirwedd Dynodedig

Yr Athro Terry Marsden oedd cadeirydd Adolygiad Llywodraeth Cymru o strwythurau a llywodraethu'r Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (Tirweddau Dynodedig Cymru) yn 2014. Arweiniodd hyn at gynigion polisi ar gyfer newidiadau i sail gyfreithiol ardaloedd gwarchodedig yng Nghymru i'w cysoni â'r ddyletswydd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Hybu bywyd gwyllt a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru

Buom yn gweithio gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB Cymru) i lunio adroddiad yn ymchwilio sut y gellid adlewyrchu bioamrywiaeth yng ngwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ar y datganiadau ardal statudol ar adnoddau naturiol lleol, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i lywio blaenoriaethau cyrff cyhoeddus eraill. Roedd yr ymchwil hon yn llywio'r ffordd roedd Cyfoeth Naturiol Cymru'n gweithredu'r datganiadau ardal a sut y gallent ystyried yn llawn y rôl y mae bioamrywiaeth yn ei chwarae wrth gefnogi gwydnwch ecosystemau lleol.

Rhaglen Anghenion Ymchwil Tystiolaeth Bioamrywiaeth ac Ecosystemau

Rydym ni wedi arwain y mewnbwn academaidd i raglen anghenion ymchwil tystiolaeth Llywodraeth Cymru, sef cynllun ariannu sy'n caniatáu ar gyfer prosiectau bach ar draws y sector SAU, gan alluogi casglu tystiolaeth hanfodol ar gyfer gweithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys cymorth i werthuso prosiectau a phenderfyniadau ariannu ac mae'n cynnwys Llywodraeth Cymru, CNC, sector cyrff anllywodraethol Cymru ac Academyddion SAU Cymru sy'n gweithio mewn partneriaeth i lunio'r rhaglen ymchwil, gyda thua 10 o brosiectau'n cael eu dyfarnu bob blwyddyn.