Ewch i’r prif gynnwys

Pennod dau: Ail-fframio agenda ymchwil cynaliadwyedd

Gyda thros ddegawd o ymchwil, hyfforddiant a datblygu polisi rhyngddisgyblaethol, mae'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy wedi cael effaith benodol ar ddealltwriaeth yn y meysydd canlynol: Bwyd, Tir a Diogelwch; Cymdeithas ac Ecoleg; Deall Risg; Datblygu Sgiliau Ymchwil Rhyngddisgyblaethol

Mae'r adran hon yn tynnu sylw at rai o'n cyfraniadau yn y meysydd hyn.

Bwyd, Tir a Diogelwch

Mynediad diogel a chyfartal at adnoddau bwyd yw un o brif heriau'r 21ain ganrif o hyd. Drwy edrych ar y system fwyd gyfan, rydym ni wedi gwella dealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud y system yn anghynaliadwy a sut y gallwn gynyddu diogelwch bwyd drwy wella mynediad at fwyd i bawb.

Rhaid i'r ffordd rydym ni'n bwyta a sut y caiff ein bwyd ei gynhyrchu newid er mwyn bwydo'r boblogaeth fyd-eang heb or-ddefnyddio'r adnoddau cyfyngedig a ddarperir gan ein planed fwy fyth. Mae graddfa a chymhlethdod yr her yn golygu mai dim ond drwy edrych ar y system fwyd yn ei chyfanrwydd a'i heffeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol cronnol y gellir mynd i'r afael â hi, drwy ddod â safbwyntiau a disgyblaethau gwahanol at ei gilydd. Drwy ystyried effeithiau a phryderon ar raddfa mannau, gwelwn sut mae gweithgarwch ar y raddfa fyd-eang yn creu effeithiau lleol ac yn gallu datgelu cydgysylltiadau rhwng gwahanol feysydd polisi a lefelau llywodraethu.

Buom yn ymchwilio i'r hyn sy'n gwneud y system bresennol yn anghynaliadwy, a pham na fabwysiadwyd syniadau beiddgar ar gyfer newid yn eang. Gan weithio gyda ffermwyr, manwerthwyr bwyd, a chymunedau gwledig a threfol, roedd ein hymchwil yn seiliedig ar fannau’n edrych ar ffyrdd newydd arloesol o fynd i'r afael â'r heriau hyn. Drwy weithio gydag ymgyrchwyr a grwpiau lleol, mae'r Sefydliad wedi arwain a chyfrannu at drafodaethau gwyddonol a datblygiadau polisi ar ddatblygu gwledig, defnydd tir a systemau bwyd. Mae hyn wedi ffurfio agendâu gwleidyddol yng Nghymru, yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhyngwladol.

Astudiaeth achos

Trawsffurfio a Magu Perthnasoedd er mwyn Gwella Maeth a Chynaliadwyedd

Bu'r ymchwil gydweithredol hon yn edrych a allai system fwyd ranbarthol yn y DU ddarparu dietau iach a chynaliadwy ac effeithio ar ddiwylliant bwyd y cartref. Roedd yr astudiaeth achos yn canolbwyntio ar ganfod datrysiadau i'r prosesau allweddol sy'n arwain at ansicrwydd bwyd a chynhyrchu bwyd anghynaliadwy - yn enwedig y prosesau byd-eang sy'n sbarduno mwy o gynhyrchu amaethyddol, megis ffermwyr yn arbenigo ar nifer fach o gynhyrchion, cynyddu'r pellter rhwng defnyddwyr a chynhyrchwyr bwyd yn y gadwyn gyflenwi, homogeneiddio'r cyflenwad bwyd wrth i'r system fwyd ddod yn gynyddol fyd-eang, a chronni pŵer mewn rhai actorion allweddol.

Aethom ati i ailgysylltu defnyddwyr a chynhyrchwyr, a thrwy hynny gefnogi dealltwriaeth ddyfnach o'r ffordd mae'r perthnasoedd hyn yn llunio arferion defnyddio a chynhyrchu. Drwy ganolbwyntio ar ddau ranbarth sydd â gwahanol arferion ffermio lleol, Dwyrain Anglia (tir âr a garddwriaeth yn bennaf) a De Cymru (systemau bugeiliol yn bennaf), datgelodd ein hymchwil bwysigrwydd creu cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr (a chynhyrchwyr eraill) sy'n seiliedig ar fannau a thirwedd wrth ddatblygu arferion mwy cynaliadwy. Amlygodd ein hymagwedd yn seiliedig ar fannau bwysigrwydd deall sut mae tirweddau a'u hecoleg, arferion amaethyddol, a diwylliant bwyd y cartref gyda'i gilydd yn gallu llywio arferion gorau i hyrwyddo system fwyd a all fwydo cenedlaethau'r dyfodol yn iach ac yn gynaliadwy.

2.2 Cymdeithas ac Ecoleg

Mae’r bygythiadau byd-eang o ran newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn cyflwyno heriau polisi pwysig. Mae ein gwaith arloesol wedi dangos sut mae cymdeithas ac ecoleg wedi'u cyplysu'n gryf – lle bydd newidiadau yn y naill neu'r llall yn arwain at effeithiau dilynol cymhleth.

Mae hyd at 83 y cant o arwyneb tir y Ddaear wedi'i newid gan weithgarwch dynol, megis newid defnydd tir, newid yn yr hinsawdd, a chyflwyno rhywogaethau newydd, felly mae'n wahanol iawn i'w gyflwr cyn cyfnod y ddynoliaeth. Roedd gwaith yn y Sefydliad yn canolbwyntio ar y cysylltiad cryf rhwng prosesau cymdeithasol a systemau ecolegol a sut maen nhw'n cyd-esblygu. Galluogodd cydnabyddiaeth o gydblethiad y systemau ecolegol-gymdeithasol ni i ystyried datblygu cynaliadwy nid fel cynnyrch syml ond fel proses sy'n ymddangos drwy adborth a rhyngweithio yn gweithredu ar draws systemau.

Roedd cydnabod cryfder y berthynas rhwng cymdeithas a natur yn llywio cyfres o gwestiynau mwy cynnil am ymagweddau at reoli cadwraeth.

Astudiaeth achos

Adfer Ecolegol ac Ecosystemau Newydd

Yn fyd-eang, ceir arwyddocâd newydd i adfer ecolegol yn wyneb newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Er gwaethaf ei bwysigrwydd cynyddol, sylw cyfyngedig mae'r gwyddorau cymdeithasol wedi'i roi i astudio adfer, polisi ac ymarfer ecolegol, gyda gwyddorau natur yn meddiannu'r maes i raddau helaeth. Gan fabwysiadu dull rhyngddisgyblaethol, dangosodd ein hymchwil y gall ymwneud â gwyddor gymdeithasol gyfrannu at well dealltwriaeth o sut i reoli adfer, ac ystyried ansicrwydd, cymhlethdod ac addasu yn y system wrth ddefnyddio offer llywodraethu clasurol, megis rheoliadau, cymhellion ariannol, a chynlluniau marchnad, megis ardystio ac achredu. Mae ein hymchwil hefyd wedi edrych ar y rhwystrau sefydliadol a rheoleiddiol at adfer a sut y gellir eu goresgyn.

Wrth i'r defnydd o waith adfer dyfu, mae'n gynyddol debygol y bydd yn arwain at anghydfod cymdeithasol ac yn gwrthdaro ag amrywiaeth o fuddiannau amgylcheddol, diwylliannol, economaidd a chymunedol. Wrth fynd i'r afael â hyn, gwelsom sut mae cysylltiadau pŵer a buddiannau breintiedig yn dylanwadu ar ganlyniadau adfer ecolegol a sut y gellir nodi a mynd i'r afael â'r rhain. Mae hyn hefyd yn helpu i lunio meini prawf newydd ar gyfer gwerthuso llwyddiant cymdeithasol unrhyw adfer ecolegol, a all weithredu ochr yn ochr â meini prawf ecolegol traddodiadol.

Astudiaeth achos

Parthau Arfordirol

Yn fyd-eang, mae parthau arfordirol yn aml yn ardaloedd o ddatblygiad economaidd cyflym.  Mae'r datblygiad hwn yn amharu ar batrymau sy'n bodoli eisoes o berthnasoedd o fewn systemau cymdeithasol-ecolegol. Bu ein gwaith yn edrych ar rôl llywodraethu wrth ymdrin â bygythiadau i'r systemau hyn. Yn benodol, edrychwyd ar y bygythiadau i ecosystemau morol ar benrhyn Yucatan yn sgil datblygiadau twristiaeth, gorbysgota, rheolaeth dŵr gwael a newid yn yr hinsawdd. Arweiniodd hyn at syniadau newydd am sut i ddatblygu dull integredig o lywodraethu parthau arfordirol, gan sicrhau bod cynllunio defnydd tir a datblygiadau twristiaeth yn ystyried gwendidau ecosystemau morol ac anghenion trigolion lleol. Canfu'r ymchwil fod parthau arfordirol yn codi sawl her o ran llywodraethu, gyda hyblygrwydd sefydliadol, cyfranogiad eang, llywodraethu aml-lefel, a hyblygrwydd yn cael eu nodi’n amodau hanfodol ar gyfer hyrwyddo cynaliadwyedd.

Yn nhalaith Quintana Roo, Mecsico, rheolir parthau arfordirol gan y llywodraeth ffederal a lleol, ond mae sefydliadau cymdeithas sifil lleol, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol a chymdeithasau busnes lleol yn chwarae rhan gynyddol bwysig. Mae'r trefniant cydweithredol hwn rhwng y wladwriaeth a chymdeithas sifil yn deillio o lefelau uchel o ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn enwedig o ran llygredd dŵr, a diffyg capasiti'r llywodraeth. Mae'r cydweithio wedi arwain at rannu data ac adnoddau, gwell capasiti gweithredu a rheoliadau gwell. Mae'r llywodraethu 'hybrid', cyhoeddus-preifat hwn yn cyfrannu at ddulliau integredig o ymdrin â pharthau arfordirol ond gall hefyd beryglu fod y wladwriaeth yn encilio o'i chyfrifoldebau a'i dyletswyddau cyhoeddus.

Astudiaeth achos

Ymgysylltu â Natur

Mae cyfran fwy o bobl bellach yn byw mewn ardaloedd trefol, gyda llai o gyswllt â natur nag yn y gorffennol, ac mae’r cyswllt hwn wedi newid i ‘ddefnydd’ hamdden. Mae ymgysylltu â'r byd naturiol yn gwella iechyd corfforol a meddyliol pobl, tra hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth lunio gwerthoedd cymdeithasol, diwylliannol ac ecolegol.

Tybir bod ein cysylltiad dynol â lleoedd arbennig, megis parciau cenedlaethol neu dirweddau, yn creu cydberthnasau cadarnhaol ac amddiffynnol. Eto gall dealltwriaeth unigol o werth ecolegol a diwylliannol lleoedd fod yn rhannol neu'n arwynebol, gan arwain at effeithiau niweidiol gweithgareddau dynol. Er mwyn deall y broblem yn well, mae ein gwaith ymchwil yng Nghymru, y DU, Seland Newydd a Malaysia wedi edrych ar y ffyrdd y mae gwahanol ddefnyddwyr mannau a warchodir yn ecolegol yn ymgysylltu â thirweddau naturiol ac yn eu deall. Gwnaethom ymchwilio i sut mae pobl yn defnyddio'r tirweddau hyn, sut maen nhw'n meddwl amdanyn nhw eu hunain mewn perthynas â'r dirwedd (defnyddwyr hamdden, trigolion) a'u dealltwriaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig â gorddefnyddio natur a thirweddau naturiol.

Mae’r ymchwil wedi dangos y gall annog pobl i fod yn ddefnyddwyr tirweddau drwy weithgareddau chwaraeon a hamdden olygu bod pobl yn tanbrisio eu heffeithiau ar yr amgylchedd naturiol neu hyd yn oed yn ei niweidio'n fwriadol wrth flaenoriaethu lles unigol. Mae angen ystyried sut mae natur yn cael ei hystyried yn wahanol gan wahanol grwpiau ac mewn gwahanol leoedd gan ei fod yn aml yn dibynnu ar ryw, ethnigrwydd a sefyllfa gymdeithasol.

Astudiaeth achos

Parciau Cenedlaethol Cymru

Mae gan Barciau Cenedlaethol yng Nghymru ddwy ddyletswydd; cadwraeth a lles cymdeithasol. Gan weithio gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru, gwnaethom archwilio sut y gellid deall, a gwella ymgysylltiad â thirweddau gwarchodedig, sydd yn draddodiadol wedi eithrio pobl ifanc a chymunedau ymylol. Arweiniodd ein hymchwil at gyllid ar gyfer rhaglenni llesiant ac ymgysylltu cymdeithasol newydd ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Roedd y rhain yn darparu cyfleoedd newydd i gymunedau amrywiol ddefnyddio'r Parc ar gyfer iechyd a lles ac ar gyfer mwy o hygyrchedd.

Astudiaeth achos

Llawlyfr Natur Sage

Mae tair cyfrol gynhwysfawr Sage Handbook of Nature, a olygwyd gan yr Athro Terry Marsden, gyda chyfraniadau gan ymchwilwyr y Sefydliad a chydweithwyr rhyngwladol, yn dangos sut mae ein gwaith wedi cyfrannu at ddealltwriaeth newydd o berthnasoedd dynol â natur a'r amgylchedd. Roedd y Llawlyfr yn cyfuno dealltwriaeth gan wahanol wyddorau o natur, yr amgylchedd a phrosesau naturiol, a ddygwyd ynghyd yn y Sefydliad, ac mae'n dangos y berthynas agos â phrosesau cymdeithasol, economaidd a llywodraethu. Ymhlith y meysydd a gaiff eu cwmpasu yn y tair cyfrol mae goblygiadau datblygu cynaliadwy ar gyfer systemau bwyd, dŵr ac ynni yn y dyfodol, ac ar gyfer iechyd dynol a'r blaned, ynghyd ag ystyriaeth o anghydraddoldeb cymdeithasol, rhywedd, gwledigrwydd, trefolaeth, risg, gwydnwch ac addasu.

2.3 Deall Risg

Yn fyd-eang, gall digwyddiadau mawr prin, fel daeargrynfeydd, gael effaith ddinistriol, yn enwedig mewn gwledydd sy'n datblygu. Mae ein gwaith ar ansicrwydd ac arloesi cymdeithasol yn helpu i lywio ymagweddau mwy gwydn o ran risg.

Mae digwyddiadau eithafol fel daeargrynfeydd, tswnamis a thirlithriadau'n gosod treth ddinistriol ar fywydau dynol, seilwaith critigol ac ecosystemau, yn enwedig mewn gwledydd sy'n datblygu lle mae canolfannau poblogaeth mawr wedi'u clystyru mewn ardaloedd o seismigrwydd uchel a rhanbarthau arfordirol agored. Mae lliniaru risgiau'r digwyddiadau eithafol hyn yn golygu gwell dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n eu sbarduno a'u helfennau ansicr yn ogystal â deall ymatebion posibl cymunedau a llywodraethau i'r ergydion hyn. Rydym ni wedi edrych ar sut mae pobl yn deall elfennau ansicr digwyddiadau mawr, prin, ac ystyried sut y gallai cymunedau ddod yn fwy gwydn yn wyneb y digwyddiadau hyn.

Astudiaeth achos

Gweithio gydag Ansicrwydd

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae modelau cyfrifiadurol o botensial perygl wedi sicrhau datblygiad yn ein gallu i ragweld ble a phryd y gallai digwyddiadau peryglus godi. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth a gynhyrchir ganddynt yn aml yn ansicr iawn a gall fod yn agored i duedd systematig sydd angen ei hystyried wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella gwydnwch cymunedau. Mae systemau rhybudd brys a seilwaith sydd wedi'i gynllunio i arafu neu atal perygl penodol yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch a all fod yn gamarweiniol os na chaiff yr ansicrwydd hwn ei gyfrif neu ei gyfleu i gymunedau lleol. Er bod amrywiaeth o dechnegau ffurfiol ac anffurfiol ar gael ar gyfer ymdrin ag ansicrwydd a thuedd o'r fath, mae asiantaethau iechyd a diogelwch yn aml yn dibynnu ar weithdrefnau safonedig ar gyfer asesu risg a pherygl sy'n golygu na chânt eu mabwysiadu. Dangosodd ein gwaith y gallai'r gred eang fod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n dymuno cael allbynnau dadansoddol manwl, diffiniol, gynyddu risg, a bod angen dulliau newydd a all fynd i'r afael â'r ansicrwydd drwy gyfuno data ac allbynnau enghreifftiol gyda gwybodaeth ansoddol neu anecdotaidd mewn ymgynghoriad â chymunedau.

Astudiaeth achos

Cymunedau a Gwydnwch

Drwy ymchwil, partneriaeth ac ymgynghori rydym ni wedi cyfrannu'n sylweddol at y gwaith ar wydnwch cymunedol ar sail mannau mewn gwahanol leoliadau rhyngwladol. Mae'r gwaith wedi pwysleisio cydweithio a deialog rhwng actorion cyhoeddus a chymdeithas sifil i ddatblygu offer ymarferol, canllawiau a chymhellion.

Yn Lesotho, buom yn gweithio gyda llwythi lleol oedd wedi'u dadleoli o'u tiroedd hynafol gan brosiectau seilwaith ar raddfa fawr, ac a oedd wedi bod yn brwydro am hawliau ac iawndal ers degawdau.

Pan ysgogodd pandemig byd-eang COVID-19 fesurau rheoleiddio megis ymbellhau cymdeithasol a gofodol, buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn Nepal, yr Iorddonen a De Affrica i ddatblygu dealltwriaeth o sut roedd mesurau o'r fath yn heriol i bobl sy'n byw mewn sefyllfaoedd agored i niwed ac amodau difreintiedig. Dangosodd ein hymchwil fod dyluniad tai, amodau aelwydydd a dynameg cymdogaethau lleol yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi lles cymunedau.

2.4 Datblygu Sgiliau Ymchwil Rhyngddisgyblaethol

Mae'r hyfforddiant ymchwil a'r profiad a gynigir gan y Sefydliad wedi helpu i ddatblygu cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr cynaliadwyedd. Mae'r ymchwilwyr hyn yn gyfforddus yn croesi'r ffiniau rhwng disgyblaethau a chydweithio gyda chydweithwyr o wahanol gefndiroedd ymchwil. Mae ganddynt brofiad o ymgysylltu â chymunedau a pharchu mathau lleol o wybodaeth a phrofiad. Maent yn awyddus i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan fynd y tu hwnt i ddamcaniaeth ac effeithio ar bolisi a gweithredu ar lawr gwlad. Maent hefyd wedi hyrwyddo pwysigrwydd edrych ar ddatblygu cynaliadwy fel cyfres o brosesau rhyng-gysylltiedig yn hytrach na digwyddiadau ar wahân.

Yn ogystal â'n Cymrodyr Ymchwil, rydym wedi croesawu 32 o fyfyrwyr doethurol, nifer o ymwelwyr rhyngwladol ar leoliad, dwy Gymrodoriaeth Sêr Cymru, Cymrodoriaeth Uwch Newton Ungku-Omar a phum Cymrodoriaeth Marie Curie. Mae ein staff wedi'u dyrchafu i benodiadau academaidd gyda Phrifysgol Caerdydd yn ogystal ag ar draws y DU ac yn fyd-eang. Rydym hefyd wedi croesawu nifer o Gymrodyr Gwadd Nodedig, megis Matthew Quinn (Llywodraeth Cymru), Dr Karin Beland-Lindahl (Prifysgol Technoleg Luleå), Dr Rachel Simon Kumar (Prifysgol Auckland), Dr Paul Sinnadurai (Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) sydd wedi cefnogi datblygiad, hyfforddiant a chyrhaeddiad byd-eang y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.

Tystebau

"Fel ymchwilydd sy'n canolbwyntio ar y croestoriad rhwng cymdeithaseg bwyd, defnydd, cynaliadwyedd, a'r amgylchedd, roedd PLACE yn cynnig llwyfan i archwilio cwestiynau'n gysylltiedig â'r themâu hyn mewn ffyrdd newydd a rhyngddisgyblaethol. Gyda chefnogaeth y tîm yn PLACE, datblygais yr adnoddau deallusol oedd eu hangen i ddatblygu'r agenda ymchwil hwn, a'i symud ymlaen mewn ffyrdd annibynnol a chydweithredol.  Mae'r diwylliant ymchwil - yn enwedig ei anogaeth i gydweithio ar draws y gwyddorau natur a chymdeithasol - a'r cartref deallusol a ddarperir gan PLACE wedi bod yn allweddol wrth lunio fy ngyrfa academaidd hyd yma."

Dr Jessica Paddock (Cydymaith Ymchwil 2010-2014)

"Yn 2014 roeddwn yn ddigon ffodus i dreulio 4 mis yng Nghanolfan Maes Danau Girang Prifysgol Caerdydd fel rhan o'm PhD yn edrych ar effaith planhigfeydd palmwydd olew ar weithrediad Afon Kinabatangan yn Borneo. Roedd Kinabatangan yn lle anhygoel i weithio gan fy mod yn gallu mynd allan i'r afon bob dydd ac archwilio ei glannau, troedio drwy'r goedwig law, a chloddio llawer o dyllau.

"Yn ystod fy nghyfnod yn y ganolfan, roeddwn i'n byw ac yn gweithio ochr yn ochr â rhai o'r ymchwilwyr mwyaf ymroddedig ac angerddol a gwrddais i erioed.

"Roedd yn gyfle gwych, nid yn unig i gasglu data ar gyfer fy mhrosiect fy hun, ond hefyd i ymgysylltu â phrosiectau a phynciau na fyddwn byth wedi cael y cyfle i'w profi fel arall.

"Er gwaethaf yr holl waith caled, y gwres trofannol, y baw, y pryfed, y mosgitos(!), heb drydan, dim cyswllt allanol, a'r holl anghyfleustra arall o fyw mewn jyngl – roedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd a byddwn yn hapus i wneud y cyfan eto."

Dr Alex Horton (myfyriwr PhD; 2014-2017)

"Gweithiais yn y Sefydliad o 2016-2018 fel ymchwilydd ôl-ddoethurol, oedd yn sylfaen gref ar gyfer sefydlu fy ngyrfa, o fod yn ymchwilydd gyrfa gynnar at ddatblygu annibyniaeth ac arbenigo mewn maes penodol.

"Roedd yn fan cefnogol iawn, oedd yn cynnig cyfle i gwrdd â gwyddonwyr cymdeithasol o'r un anian, gyda mentoriaid rhagorol o amrywiol gefndiroedd, a chyfleoedd rhwydweithio pwysig. Rwyf wedi parhau i gynnal fy nghysylltiadau â'r Sefydliad dros y 3 blynedd diwethaf drwy ysgrifennu papurau academaidd, a thrafod syniadau ymchwil newydd ac esblygol. Roedd fy nghyfnod yn y sefydliad yn lle creadigol ac archwiliadol lle'r oeddwn yn gallu magu hyder ac ymwneud ag amrywiol brosiectau ymchwil ar draws Affrica Is-Sahara a'r Seychelles. Rhoddodd hyn y profiad angenrheidiol i mi sicrhau fy swydd bresennol fel Uwch Wyddonydd Cadwraeth gyda'r RSPB."

Dr Natasha Constant (Cydymaith Ymchwil, 2016-2018)