Ewch i’r prif gynnwys

Pennod saith: Ein Gwaddol

Roedd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn fan cyfarfod ar gyfer gwyddoniaeth cynaliadwyedd, a chyflwynodd atebion arloesol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy. Dangosodd fod ymagweddau gwahanol at ymchwil yn bodoli sy'n rhoi gwell adlewyrchiad o gymhlethdod gofynion cyflawni datblygu cynaliadwy.

Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn ar adeg dyngedfennol i weithredu byd-eang ar gynaliadwyedd. Mae'r blynyddoedd nesaf yn hollbwysig ar gyfer ymdrin â heriau colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd mewn ffordd sy'n gymdeithasol gyfiawn a chynhwysol. Mae ar y byd angen ymchwilwyr academaidd sydd â'r ehangder a'r weledigaeth i gefnogi'r gwaith hwn. Mae'r Sefydliad wedi dangos pwysigrwydd edrych ar yr heriau hyn fel rhan annatod o'n systemau economaidd a chymdeithasol presennol ac wedi dangos sut y gallwn weithio ar draws cymdeithas sifil i fynd i'r afael â natur gydgysylltiedig yr heriau, drwy lens mannau.

Fel canolfan ragoriaeth, ein cyfraniad mawr yw dod ag ymchwilwyr at ei gilydd ar draws ffiniau academaidd ac o bob cwr o'r byd. O fyfyrwyr ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, i academyddion sefydledig sy'n arwain y byd, mae ein Sefydliad wedi bod yn gartref i ymchwil seiliedig ar fannau sydd wedi'i harwain yn foesegol ac sy'n wirioneddol ryngddisgyblaethol. Dymunwn yn dda iddynt yn eu gwaith yn y dyfodol.

Os yw'r byd academaidd am osgoi bod yn amherthnasol i genedlaethau'r dyfodol, rhaid iddo fyfyrio ar gyfyngiadau ei seilos disgyblaethol ac ymgysylltu'n ehangach ac yn fwy radical ar draws cymdeithas. Fel hyn, gall fynd ati’n wirioneddol i gofleidio ei botensial cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.