Ewch i’r prif gynnwys

Pennod un: Cyflwyniad

Sefydlwyd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2010 allan o argyhoeddiad bod cyflawni datblygu cynaliadwy'n galw am ddulliau newydd o ymchwil academaidd. Yn hytrach nag ymagweddau technegol neu sectoraidd y cyfnod at gynaliadwyedd, a phwyslais ar ddylanwadu ar ymddygiad a marchnadoedd unigol, aeth y Sefydliad i'r afael â chynaliadwyedd fel rhywbeth sydd wedi'i wreiddio yn y rhyngweithio dyddiol rhwng systemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, nad oes modd ei wahanu oddi wrth ystyriaethau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol a llywodraethu.

Er mwyn deall yn llawn y rhyngweithio cymhleth sy'n parhau i hybu arferion anghynaliadwy, dewison ni lens 'mannau' y byd real gan ddod ag ystod eang o ddisgyblaethau ynghyd - Daearyddiaeth, Bioleg ac Ecoleg, Economeg a Marchnata, Gwyddor Wleidyddol, Cymdeithaseg, Seicoleg, Gwyddor y Ddaear ac Athroniaeth. Roedd hyn yn ein gorfodi i ddod o hyd i  ffyrdd i gydweithio ar draws agweddau a dulliau disgyblaethol gwahanol iawn, gan ddefnyddio realiti mannau ffisegol, gyda'u holl gymhlethdod a 'llanast' i angori ein holl waith. Mabwysiadwyd yr etheg o weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau a buddiannau eraill yn hytrach na'u gweld fel gwrthrychau i'w hastudio. Ein nod oed helpu academyddion, cymunedau, sefydliadau anllywodraethol, awdurdodau cyhoeddus a busnesau i gydweithio a datblygu datrysiadau oedd yn ystyrlon iddyn nhw, eu hardaloedd a'u gwerthoedd.

Dros ei oes, chwaraeodd y Sefydliad rôl ffurfiannol yn datblygu ymchwil academaidd a all gysylltu damcaniaethau gyda phrofiad ymarferol i greu ffyrdd newydd o fynd i'r afael â heriau datblygu cynaliadwy. Mae'r ffocws hwn wedi ail-fframio agendâu ymchwil, creu offer a dulliau newydd, a llywio arfer rhyngwladol a chenedlaethol. Mae ein gwaith ar greu mannau cynaliadwy hefyd wedi ffurfio partneriaethau a phrosiectau parhaus sy'n parhau y tu hwnt i oes y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy. Rydym yn gadael gwaddol cyfoethog o fentrau ymarferol sylweddol ac effeithiau polisi, cyhoeddiadau academaidd blaenllaw, ac yn fwy na dim, grŵp o ymchwilwyr fydd yn parhau i ddod â'n dysgu i feysydd newydd.