Ewch i’r prif gynnwys

Offeryn casglu data’n gallu helpu garddwyr marchnad organig i gynyddu elw

6 Tachwedd 2019

Garden hand tools

Mewn gweithdy a hwyluswyd gan Hannah Pitt, daethpwyd i’r casgliad y gall offeryn casglu data alluogi garddwyr marchnad organig i gasglu a phrosesu gwybodaeth a allai eu helpu i wneud penderfyniadau busnes gwybodus a chynhyrchu cymaint o elw â phosibl.

Bwriad offeryn OMG Data! yw helpu i gasglu a phrosesu gwybodaeth am weithgareddau tyfwyr, a’i meincnodi gyda chymheiriaid. Ar ôl rhagbrofi’r offeryn gyda deg o dyfwyr marchnad organig dros y tymor tyfu, bydd yr offeryn yn cael ei fireinio, a’i rannu.

Gyda chefnogaeth grant Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC drwy Brifysgol Caerdydd, roedd y gweithdy gyda chyfranogwyr y rhagbrawf yn gyfle i ystyried materion ynghylch casglu gwybodaeth, ei phwysigrwydd a pham mae’n gallu bod mor anodd i’r math hwn o fusnes.

Amlygodd adborth gan y cyfranogwyr:

  • Mae garddwyr marchnad organig yn gwybod pwysigrwydd data da, ond gall fod yn anodd ei gasglu.
  • Pwysau amser yw’r prif rwystr i gasglu data, ac mae diffyg systemau parod i hwyluso casglu’r wybodaeth iawn neu sefydlu arferion cadw cofnodion yn gwaethygu hyn.
  • Disgwylir i ddata gwell helpu tyfwyr i wneud penderfyniadau busnes gwybodus a mwyhau elw.
  • Mae cymhlethdod ac amrywiaeth y busnesau hyn yn golygu bod angen i unrhyw offer data gael eu llywio gan ddealltwriaeth o’u gweithgareddau, a bod yn hyblyg er mwyn ymdopi ag amrywiadau a digwyddiadau annisgwyl.
  • Mae galw am grynhoi a rhannu ystod o wybodaeth am allbynnau tyfwyr bwyd organig graddfa fach, er mwyn arddangos cyfraniad y sector at nwyddau cyhoeddus.

Daeth adroddiad o’r gweithdy i’r casgliad y bydd mabwysiadu offer casglu data’n ehangach gan arddwyr marchnad organig yn golygu bod angen i’r offer fod mor syml ac effeithlon â phosibl, a gydag amlinelliad clir o fanteision data da.

Rhannu’r stori hon