Ewch i’r prif gynnwys

System Fwyd yng Nghymru sy'n Addas ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

27 Mawrth 2020

Person handing over money for shopping

Mae angen trawsnewid y polisi bwyd yng Nghymru mewn modd radical er mwyn sicrhau iechyd a lles ei phobl a'r economi, yn ôl academyddion.

Mae'r gwaith ymchwil a gynhelir gan Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd ac sydd wedi’i gomisiynu gan WWF Cymru, yn galw am greu system fwyd integredig, gynaliadwy a chyfiawn sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Yn ôl yr adroddiad, dylai gweledigaeth newydd o ran bwyd yng Nghymru ystyried beth allai gael ei gynhyrchu a'i werthu'n lleol er budd iechyd y boblogaeth yn ogystal â bwydo'r economi. Mae'n ychwanegu bod angen i Lywodraeth Cymru, ffermwyr, busnesau a'r cyhoedd gymryd rhan yn y gwaith o greu'r strategaeth newydd ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn nodi bod angen seilwaith gwell mewn trefi ac yng nghefn gwlad er mwyn cysylltu cynhyrchwyr bwyd â defnyddwyr mewn ffyrdd mwy amrywiol. Mae hyn yn golygu rhagor o safleoedd ar gyfer marchnadoedd bwyd, manwerthwyr a phroseswyr bwyd cymunedol, buddsoddiad mewn cydweithfeydd bwyd a datblygu rhwydwaith o ganolfannau bwyd sy’n casglu bwyd ac yn eu dosbarthu’n lleol.

Mae hefyd yn argymell y dylid sefydlu Comisiwn Bwyd newydd yng Nghymru i oruchwylio'r gwaith o gyflwyno strategaeth y system fwyd. Byddai datblygu Fframwaith Bwyd Cynhwysol Cenedlaethol yn sicrhau bod gan pawb yng Nghymru'r hawl i gael mynediad at fwyd iach.

Dywedodd yr Athro Terry Marsden, cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy: “Nid yw llawer o bobl yng Nghymru yn gallu fforddio deiet iach. Mae'r system fwyd bresennol yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, iechyd y cyhoedd a lles economaidd y wlad. Mae hyn yn ein rhwystro rhag ffynnu fel cenedl ar hyn o bryd a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol oni bai ein bod yn cymryd camau gweithredu.

“Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r ffyrdd y gall llunwyr polisïau ddatblygu strategaeth sy'n gweithio law yn llaw â natur ac sydd wirioneddol er budd y cenedlaethau sydd i ddod."