Ewch i’r prif gynnwys

Angen ‘rhwyd ddiogelwch’ sydd â sawl nod uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r dirywiad brawychus mewn natur, yn ôl ymchwilwyr.

27 Hydref 2020

Birds

Mae angen 'rhwyd ddiogelwch' yn cynnwys sawl targed uchelgeisiol sy'n ymwneud â'i gilydd er mwyn taclo'r dirywiad brawychus yn natur, yn ôl tîm o ymchwilwyr sy'n dadansoddi targedau natur newydd Confensiwn y CU ar Amrywiaeth Fiolegol.

Mae'r cyngor gwyddonol yn dod ar adeg critigol: Cyhoeddodd y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn ddiweddar nad oedd unrhyw un o'r 20 Targed Bioamrywiaeth Aichi ar gyfer 2020 wedi'u cyflawni. Mae llunwyr polisïau, gwyddonwyr a thrafodwyr gwledydd bellach yn paratoi at y genhedlaeth nesaf o dargedau bioamrywiaeth ar gyfer 2030 a 2050, fydd yn cael eu hymgorffori gan yr 15fed Confensiwn y Partïon yn 2021.

Mae'r papur newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Science, ac sydd dan arweiniad arbenigwyr Comisiwn y Ddaear, yn amlinellu'r sail wyddonol dros ailddylunio'r gyfres newydd hon o dargedau bioamrywiaeth. Er mwyn gwella, mae angen i ecosystemau, cynefinoedd, amrywiaeth genetig a chyfraniadau natur i bobl fod â thargedau penodol, ac mae angen i'r targedau hyn fod yn gysylltiedig â'i gilydd mewn rhwyd ddiogelwch a bod yn uchelgeisiol iawn.

Bu i ymchwilwyr yr astudiaeth hon, grŵp o dros 60 o arbenigwyr bioamrywiaeth blaenllaw o 26 o wledydd, asesu'r targedau drafft hyn a gofyn beth yw'r dystiolaeth wyddonol i'w cefnogi, sut mae'r targedau hyn yn ategu neu'n tanseilio ei gilydd, a gweld all un agwedd ar natur arwain at un arall.

Y canlyniad yw asesiad annibynnol, gyda sail wyddonol, sy'n gyflawn i raddau digynsail.

"Gyda lwc, bydd hwn yn adnodd yn y trafodaethau CBD ar strategaeth newydd ar gyfer natur a phobl", dywedodd yr Athro Mike Bruford, un o awduron yr adroddiad a Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd.

Yn ôl y gwyddonwyr mae tri phwynt yn hanfodol i genhedloedd eu hystyried wrth bennu’r nodau bioamrywiaeth newydd:

Yn gyntaf, mae nod sengl ar gyfer natur, yn seiliedig ar un agwedd, er enghraifft, un sy'n canolbwyntio ar ddifodiant rhywogaethau yn unig, neu ardal ecosystem, sy'n debyg i'r targed "o dan 2°C" ar gyfer yr hinsawdd, yn beryglus. Mae angen nodau lluosog, gwahanol ar gyfer ecosystemau, rhywogaethau, genynnau a chyfraniadau natur i bobl er mwyn sicrhau nad oes yr un ohonynt yn cael eu hanghofio.

Yn ail, gan fod agweddau natur yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd er gwell neu er gwaeth, rhaid diffinio a chyflawni'r nodau yn gyfannol, nid ar wahân.

Yn drydydd, dim ond y lefel uchelgais uchaf ar gyfer pennu pob nod, a gweithredu pob nod mewn modd integredig, a fydd yn rhoi siawns realistig o “blygu” cromlin dirywiad natur erbyn 2050.

Daw'r papur i'r casgliad, oni bai bod y gwahanol agweddau yn cael eu hystyried gyda'i gilydd, ac oni bai bod yr uchelgeisiau wedi'u pennu’n uchel iawn ar gyfer pob un ohonynt, prin iawn yw'r cyfle i drosglwyddo i ddyfodol gwell a thecach i’r holl fywyd ar y Ddaear erbyn 2050.

Er mwyn helpu i grisialu'r argymhellion cyffredinol hyn, mae'r awduron wedi cynhyrchu rhestr wirio o bwyntiau allweddol sy'n seiliedig ar wyddoniaeth. Gallent fod yn ddefnyddiol yn ystod y trafodaethau ar gyfer creu rhestr derfynol o’r nodau bioamrywiaeth newydd.

Bydd adeiladu rhwyd ddiogelwch sy'n ddigon uchelgeisiol yn her byd-eang fawr, ond oni bai ein bod yn gwneud hyn, rydym yn creu problemau mawr i bob cenhedlaeth arall yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon