Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltu â'r gymuned

Mae cynnwys pobl yn y pethau sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw wrth i'w hardal leol gael ei datblygu yn hanfodol er mwyn i gymunedau ddod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy.

Mae ymchwilwyr y Sefydliad yn rhan o amryw o brosiectau ymchwil. Mae eu canfyddiadau'n cyfrannu at ein dealltwriaeth o sut i greu lleoedd cynaliadwy o dan arweiniad y gymuned ac ar lefel leol.

Tyfu i Ddysgu

Mae ein prosiect dysgu allgyrsiol drwy brofiad a elwir yn Tyfu i Ddysgu yn cysylltu grwpiau bach o fyfyrwyr gydag aelodau o erddi cymunedol Caerdydd er mwyn llunio prosiectau ymarferol gyda’r nod o gyfrannu at gynaliadwyedd y gerddi.

Rhannu casgliadau, rhannu casgliadau

Ar y cyd rhwng y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ac Amgueddfa Cymru (AC-NMW), bu’r lleoliad gwaith hwn yn ymchwilio i sut y gall casgliad botaneg economaidd AC-NMW (EBC) wella dealltwriaeth y cyhoedd o fioamrywiaeth a chyfrannu at ddyletswydd lles AC-NMW (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), 2015).

Drwy alluogi deialog trawsddisgyblaethol a chyfnewid syniadau rhwng botanegwyr, ymarferwyr, grwpiau cymdeithas sifil, gwyddonwyr cymdeithasol a’r cyhoedd, bu’r prosiect yn ymchwilio i ffyrdd y gall y casgliad a gweithgareddau cysylltiedig wella dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cymdeithas o fioamrywiaeth. Arweiniodd hyn at arddangosfa gyhoeddus o’r casgliad yn ogystal â theithiau y tu ôl i’r llenni o gasgliad botaneg economaidd a llysieufa’r Amgueddfa.

Seagrass spotter

Mae’r ap Seagrass spotter, a ddatblygwyd gan ymchwilwyr o elusen Prosiect Morwellt, yn annog aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth, monitro ac addysg i helpu gwyddonwyr i deall dolydd morwellt ar draws y byd yn well.

Mae’r ap yn rhoi cyfle i’r rhai sydd â diddordeb mawr mewn cefnforoedd ledled y byd i fod yn wyddonwyr dinesig sy’n cyfrannu at warchod y moroedd drwy ddefnyddio ffonau symudol.

Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC

Yn ystod Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC y DU 2018, gwnaeth ymchwilwyr o’r Sefydliad Mannau Cynaliadwy feddiannu Canolfan Gelfyddydau Chapter, i ddangos yr ystod o ymchwil a wnaed yn PLACE. Bu’r digwyddiad deuddydd yn edrych ar wahanol ystyron lle, ei rôl ar gyfer cynaliadwyedd y dyfodol yn ogystal â’r dulliau arloesol a ddefnyddiwn i’w astudio.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa, cyflwyniadau, trafodaethau panel, dangosiadau sinema a gweithdai rhyngweithiol ar ein gwaith presennol yn creu lleoedd cynaliadwy mewn cymunedau yng Nghymru, Portiwgal a Malaysia.