Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad newydd yn annog cynghorau i wella eu cynlluniau wrth gefn i atal unrhyw fersiwn ar Brexit rhag tarfu ar y cyflenwad bwyd

31 Mai 2019

Field

Mae’r Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, wedi llunio adroddiad newydd ar y cyd, sy’n dweud bod yn rhaid i Awdurdodau Lleol y DU gryfhau cynlluniau ar gyfer ymyrraeth bosibl oherwydd Brexit, a pharatoi ar gyfer rhannu gwybodaeth am fwyd â’r cyhoedd.

Mae’r ddogfen, a gyhoeddwyd yn rhan o gyfres y Bartneriaeth Ymchwil Bwyd (FRC) ynghylch Briff Brexit Bwyd, yn annog staff gweithredol y cynghorau i fanteisio ar arbenigedd bwyd lleol o fewn Awdurdodau Lleol i gryfhau cynlluniau wrth gefn a’u gallu i gyfathrebu.

Mae’n cyfeirio at Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, sy’n galw i Fforymau Gwydnwch lleol gael eu ffurfio i baratoi ar gyfer y risgiau, ac sy’n galw am gyfathrebu clir â’r cyhoedd ar adegau ansefydlog.

Mae’r briff, a ysgrifennwyd gan arbenigwyr polisïau bwyd o City, Prifysgol Llundain, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, Prifysgol Sussex a Phrifysgol Caerdydd, hefyd yn nodi bod angen cadw pwysau ar y Llywodraeth i gynnig gwybodaeth well ynghylch risgiau i’r cyflenwad bwyd.

Mae’r briff yn diweddaru cyngor a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018, ac a anfonir i bob cyngor yn y Deyrnas Unedig i’w hannog i sefydlu timau gwydnwch bwyd i asesu’r risg o sut gallai gwahanol ddeilliannau Brexit effeithio ar y cyflenwad bwyd yn eu hardal leol.

Gellir lawrlwytho’r adroddiad llawn o wefan y FRC.

Rhannu’r stori hon