Ewch i’r prif gynnwys

Newidiadau deddfwriaethol yn angenrheidiol er mwyn cael system fwyd gynaliadwy yng Nghymru

5 Tachwedd 2019

Bread

Mae cynhyrchu bwyd rhad ar lefel ddiwydiannol yn bygwth systemau bwyd cynaliadwy a chyfiawn yng Nghymru yn ôl adroddiad gan ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.

Galwodd yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Blaid Gydweithredol Cymru ac aelodau o'r Grŵp Gydweithredol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, am newidiadau deddfwriaethol i gefnogi'r broses o sicrhau twf mewn economïau cydweithredol.

Nododd yr adroddiad nifer o heriau sy'n rhwystro ffyrdd cydweithredol o weithio, gan gynnwys prinder hyfforddiant mewn amaethyddiaeth gynaliadwy ochr yn ochr â diffyg cefnogaeth a chyngor priodol, a diffyg cyfleoedd ar gyfer prosesu a dosbarthu.

Yn ôl Dr Poppy Nicol, cyd–awdur yr adroddiad: "Rhaid i ffyrdd cydweithredol o weithio fod yn ganolog ar gyfer Polisi Bwyd Cymru ar draws gwahanol sectorau fel bod system fwyd gynaliadwy yng Nghymru.

Mae mentrau cydweithredol bwyd cymunedol yn ffordd bwysig o fynd i'r afael â chyfiawnder bwyd drwy feithrin cymunedau bwyd lleol.

"Mae gan lywodraethau rôl allweddol wrth gefnogi mentrau cydweithredol drwy roi polisïau a deddfwriaeth ar waith sy'n hyrwyddo ac annog ffyrdd cydweithredol o weithio. Drwy ddeddfwriaeth, gallai Cymru fod yn genedl arloesol ym meysydd cynaliadwyedd a chyfiawnder."

I fynd i'r afael â'r heriau, mae'r adroddiad yn amlinellu tri argymhelliad allweddol o ran polisi:

  • Sicrhau twf o ran cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy a chyfiawn yng Nghymru;
  • Cyd–gynhyrchu Economïau a Diwylliannau Bwyd Lleol drwy Ganolfannau Bwyd
  • Cefnogi Economïau Cymreig Cydweithredol: gwybodaeth, hyfforddiant a chyngor.

Yn ôl Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd Grŵp Cydweithredol y Cynulliad: "Mae cyfiawnder bwyd yn ymgyrch allweddol ar gyfer y Blaid Gydweithredol yn 2019. Rydym o'r farn y dylai bwyd iach a chynaliadwy fod yn fforddiadwy ac ar gael i bawb yng Nghymru, ac mae gan y bartneriaeth hon ran allweddol i'w chwarae wrth gyflawni hynny."

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, ar gael i'w lawrlwytho'n llawn yma.

Rhannu’r stori hon