Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun byd-eang i warchod rhywogaethau mewn perygl yn ‘anwybyddu amrywiaeth enynnol’

5 Mawrth 2020

Stock image of birds in sky

Mae grŵp rhyngwladol o wyddonwyr yn galw am ailfeddwl drafft o gynllun gweithredu i ddiogelu bioamrywiaeth, ar frys.

Bydd y cynllun gweithredu arfaethedig, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn sail i gynllun 10 mlynedd i warchod natur.

Ond mewn llythyr a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn Science, mae arbenigwyr - gan gynnwys gwyddonwyr o Ysgol Biowyddorau a Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd - yn rhybuddio nad yw’r targedau a awgrymwyd yn ddigon eang.

Maent yn dweud bod y cynllun yn diystyru amrywiaeth enynnol er gwaethaf cyfoeth o dystiolaeth wyddonol am y rôl hanfodol mae’n ei chwarae ar gyfer rhywogaethau a’u gwydnwch ecosystem, yn arbennig yn wyneb y bygythion a godir gan newidiadau byd-eang.

Mae’r Athro Mike Bruford, Dr Pablo Orozco-terWengel a Dr Isa-Rita Russo ymhlith llofnodion yr llythyr sy’n amlinellu eu “pryder dwys” bod y nodau ynghylch amrywiaeth enynnol - blociau adeiladu esblygiad ac amrywiaeth enynnol yn ei hanfod - yn “wan”.

“Mae’r llythyr hwn yn rhybudd amserol ar adeg pan mae cymuned cadwraeth y byd yn cymryd camau critigol i atal colledion pellach o ran bioamrywiaeth fyd-eang, bod yn rhaid cynnal amrywiaeth enynnol a’i hyrwyddo lle bo’n bosibl”, meddai’r Athro Bruford, sy’n gyd-gadeirydd i Grŵp Arbenigol Geneteg Cadwraeth yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

“Os nad ydym yn gwneud hynny, rydym mewn perygl o fyd lle mae poblogaethau nad ydynt yn hyfyw o ran eu geneteg, eu gallu i ymaddasu a’u gwydnwch yn ei chael hi’n fwyfwy anodd osgoi difodiant.”

Cyhoeddodd Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) fersiwn gyntaf ei chynllun - o’r enw drafft sero ar y fframwaith ar gyfer bioamrywiaeth fyd-eang ôl-2020 - ym mis Ionawr. Mae’r Confensiwn yn gytundeb rhyngwladol o dan Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, a ffurfiwyd yn ystod Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio de Janeiro ym 1992, ac mae 195 o genhedloedd ynghyd â’r Undeb Ewropeaidd wedi’i lofnodi.

Mae dogfen fframwaith ôl-2020 y Confensiwn yn disgrifio’r angen brys am atal colledion bioamrywiaeth erbyn 2030 a byw mewn cytgord â bioamrywiaeth erbyn 2050.

Ar hyn o bryd, mae targedau ac ymrwymiadau pendant ynghylch cadwraeth bioamrywiaeth ar gyfer y cyfnod ar ôl 2020 yn cael eu trafod gan lywodraethau ac asiantau anllywodraethol ar gyfer pleidlais a gynhelir ym mis Hydref 2020.

Dyluniwyd y ddogfen i dywys camau gwledydd drwy warchod bioamrywiaeth ac asesu eu cynnydd.

Mae’n amlinellu pum amcan - gwarchod ecosystemau, rhywogaethau a genynnau, hyrwyddo datblygiad cynaliadwy a sicrhau rhannu manteision bioamrywiaeth a gwybodaeth draddodiadol mewn modd teg.

Mae’r gwyddonwyr yn dweud bod cynnal amrywiaeth enynnol wedi’i gynnwys - ond mae’r dangosyddion o gynnydd yn canolbwyntio ar rywogaethau wedi’u dofi a’u meithrin ac ar berthnasoedd rhywogaethau gwyllt “defnyddiol”.

Maent yn argymell y dylai’r fframwaith ôl-2020 rwymo’i lofnodyddion i gynnal amrywiaeth enynnol pob rhywogaeth, nid y rhai defnyddiol yn unig, a gweithredu strategaethau i atal erydiad genynnol a chynnal potensial poblogaethau o rywogaethau gwyllt a dof i ymaddasu.

Yn eu llythyr, mae’r gwyddonwyr yn cynnig dangosyddion gwell ar gyfer monitro amrywiaeth enynnol rhywogaethau, ar sail meintiau poblogaethau sy’n effeithlon eu geneteg a’r risg o golli poblogaethau sydd wedi gwahaniaethu’n enynnol.

“Calonogol yw gweld bod drafft ôl-2020 y Confensiwn yn cynnwys amrywiaeth enynnol yn un o’i brif bum nod. Fodd bynnag, bydd nodi’n benodol yn y papur bod angen gwarchod amrywiaeth enynnol ymhlith rhywogaethau gwyllt a dof gyda’i gilydd, ynghyd â strategaethau i fesur effeithiolrwydd ymdrechion at y diben hwnnw, yn gwneud yn siŵr bod y llofnodyddion yn blaenoriaethu’r agwedd bwysig hon ar gadwraeth bioamrywiaeth,” medden nhw.

Rhannu’r stori hon

Darllenwch am ein hymchwil ddiweddaraf yn Saesneg.