Ewch i’r prif gynnwys

Trio Sci Cymru


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineMwy nag un diwrnod
  • Ar gael yn Gymraeg

Mae Trio Sci Cymru yn rhaglen Ymgysylltu STEM ledled Cymru a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae Prifysgol Caerdydd yn gyd-fuddiolwr y rhaglen ac yn gweithio gydag 18 o ysgolion yn rhanbarthau gorllewin Cymru a’r Cymoedd i ddarparu gweithdai gwyddonol dros gyfnod o dair blynedd. Bydd disgyblion rhwng 11 a 14 oed yn yr ysgolion hyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglenni cyfoethogi STEM arloesol dros gyfnod o dair blynedd, sy’n cyflwyno ein hymchwil arloesol yn yr ystafell ddosbarth.

Gwenyn Apothecari

Dan arweiniad yr Athro Les Baillie o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, mae Gwenyn Apothecari yn cyflwyno’r prosiect Pharmabees arobryn i ddisgyblion. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwenyn a pheillwyr eraill, priodweddau meddyginiaethol mêl a’i botensial i drin archfygiau sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau mewn ysbytai. Bydd disgyblion ym mlwyddyn 8 yn dod yn 'dditectifs mêl', gan helpu fferyllwyr i nodi'r planhigion sy'n gyfrifol am weithgarwch gwrthfacterol mêl y Brifysgol. Ym mlwyddyn 9, byddant yn ynysu cyfansoddion gwrthfacterol o'r planhigion.

Cemeg yn y 3ydd Dimensiwn

Caiff y prosiect hwn ei oruchwylio gan Dr David Willock yn ein Hysgol Cemeg. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio sinema symudol 3D i roi cyfle i'r disgyblion gamu i mewn amrywiaeth o systemau cemegol. Mae’n cyfuno cemeg gyfrifiadurol gyda'r uwch-daflunydd 3D o’r radd flaenaf i ddod â chemeg yn fyw ar y lefel atomig. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae priodweddau deunyddiau bob dydd yn gysylltiedig â strwythur atomig. Mae'r rhaglen yn dod i ben gyda myfyrwyr yn dylunio eu harbrofion cemeg cyfrifiadurol eu hunain. Byddant hefyd yn cael cyfle i ddadansoddi data a gafwyd gan efelychu uwch-gyfrifiadurol.

UniverseLab

Yn y gweithdy hwn, mae Dr Paul Roche o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn defnyddio’r gofod i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn gwyddoniaeth. Trwy gyfuniad o sioeau 3D, rhith-wirionedd a realiti estynedig, telesgopau robotig a gweithdai ymarferol, bydd myfyrwyr yn archwilio’r Bydysawd o’u hystafelloedd dosbarth. Byddant yn gweld sut mae gofodwyr yn byw ac yn gweithio ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol, ac yn cynllunio i archwilio'r Blaned Mawrth yn y dyfodol. Bydd y Telesgopau Faulkes sy'n cael eu rheoli o bell yn tynnu lluniau o blanedau, sêr a galaethau, y bydd y disgyblion yn eu monitro dros y tair blynedd nesaf.

Arweinir y prosiect gan yr adran Cyfathrebu a Marchnata. Cyflwynir y gweithgareddau gan yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yr Ysgol Cemeg a’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Rydym eisoes wedi dewis yr ysgolion y byddwn yn gweithio gyda nhw ar gyfer y rhan hon o’r prosiect.


Ynglŷn â'r trefnydd

Cyfathrebu a Marchnata sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn thomasl63@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Rydym bellach wedi llunio’r rhestr derfynol o’r ysgolion rydym yn gweithio gyda nhw. Nid ydym yn gallu gweithio gydag unrhyw ysgolion ychwanegol ar gyfer y rhaglen. Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy ebost.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9

Math o weithgaredd

  • TickGweithdy

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickYmgysylltu â’n hymchwil
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn